Newyddion S4C

Etholiad 24: Plaid Cymru 'mewn sefyllfa ffafriol i gipio seddi' wrth lansio'i hymgyrch ym Mangor

30/05/2024

Etholiad 24: Plaid Cymru 'mewn sefyllfa ffafriol i gipio seddi' wrth lansio'i hymgyrch ym Mangor

Mae Plaid Cymru wedi lansio ei hymgyrch etholiad cyffredinol gyda rali ym Mangor ddydd Iau.

Bydd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor i lansio ymgyrch y blaid yn swyddogol.

Wrth siarad cyn y rali, dywedodd Mr ap Iorwerth fod Plaid Cymru yn "mynd â’r frwydr i’r Ceidwadwyr a Llafur ym mhob rhan o Gymru" a’i bod mewn “sefyllfa arbennig” i ennill seddi AS Ceidwadol presennol yn Ynys Môn ac yn y sefyllfa orau i gynrychioli pobl Caerfyrddin.

"Plaid Cymru, meddai, yw’r unig blaid sy’n rhoi buddiannau Cymru o flaen buddiannau pleidiol."

Dadleuodd y byddai “Cymru decach, mwy uchelgeisiol” yn cael ei chyflawni dim ond trwy gael lleisiau Plaid Cymru yn gwneud yr achos dros Gymru yn San Steffan.

“Mae’n amlwg bod pobol ledled Cymru wedi cael llond bol ar y llywodraeth Geidwadol drychinebus a dinistriol hon.

“Mae pleidleisio dros y blaid mewn etholaethau fel Ynys Môn yn hanfodol er mwyn cadw’r Torïaid draw o San Steffan ac allan o Gymru. 

"Fel y dangosodd polau piniwn diweddar ac Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai, mae Llinos Medi o Blaid Cymru mewn sefyllfa ffafriol i gipio’r sedd rhag yr AS Torïaidd presennol, gan roi llais lleol ffres i etholwyr yn San Steffan.

“Ar yr un pryd, mae pleidleisio Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin a Bangor Aberconwy yn dal Llafur i gyfrif hefyd.

“Mae neges bositif Plaid Cymru o Gymru decach, fwy uchelgeisiol, yn dangos mai ni yw’r unig blaid sy’n rhoi buddiannau’r genedl o flaen buddiannau pleidiol.

“Mewn cyferbyniad llwyr, mae ymgyrch Llafur eisoes wedi diystyru cyllid tecach i Gymru. Maen nhw’n fodlon ein gweld ni yng nghlwm a senedd San Steffan sy’n dal Cymru yn ôl."

“Nid yw’r etholiad hwn yn ymwneud yn unig â phwy sydd â’r allweddi i 10 Downing Street. Mae hefyd yn ymwneud â phwy sy’n cynrychioli eich stryd, eich cymuned, a buddiannau eich gwlad o ddydd i ddydd.”

'Pum prif nod'

Fel rhan o'u gweledigaeth, mae Plaid Cymru wedi amlinellu "pum prif nod" y byddant yn cyflawni.

Mae'r rhain yn cynnwys prydau ysgol am ddim a recriwtio 4,500 o athrawon a staff cynorthwyol ychwanegol a sbardun economaidd gwyrdd er mwyn helpu i greu 60,000 o swyddi.

Maen nhw hefyd eisiau torri biliau treth cyngor ac adeiladu 50,000 o dai cymdeithasol a fforddiadwy.

Byddant hefyd yn cyflwyno Bil Amaeth Cymreig a fyddai'n rhoi pwyslais ar ddatgarboneiddio, cynnyrch cynaliadwy a bioamrywiaeth well.

Polisïau'r pleidiau eraill 

Yn ddiweddar mae'r Blaid Geidwadol wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer pobl ifanc 18 oed i oed naill ai ymuno â'r lluoedd arfog am flwyddyn neu gyflawni gwaith gwirfoddol yn eu cymuned.

Yn ôl y Prif Weinidog, byddai'r math yma o wasanaeth cenedlaethol yn creu cymdeithas well ac yn cryfhau cyfundrefn amddiffyn y Deyrnas Unedig.  

Ym mis Chwefror eleni roedd Rishi Sunak wedi dweud y byddai'n "gwneud bob dim" i gefnogi ffermwyr Cymru yn dilyn protestiadau yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae'r blaid hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn cynyddu cyllid ar gyfer cymorth iechyd meddwl i ffermwyr.

Yn gynharach ddydd Iau roedd y Blaid Lafur wedi lansio eu hymgyrch etholiadol yng Nghymru wrth i Keir Starmer ymuno â Vaughan Gething a Jo Stevens.

Amlinellodd Starmer ei gynllun ar gyfer Cymru sydd yn cynnwys "sefydlogrwydd economaidd" a "mynd i’r afael â’r ofn o golli swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot."

Ochr yn ochr â hynny cyhoeddiadd cynllun chwe cham ar gyfer newid yng Nghymru a fydd yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd a recriwtio athrawon newydd, meddai.

Dywedodd hefyd y byddai yn recriwtio athrawon newydd mewn pynciau allweddol i baratoi plant ar gyfer bywyd, gwaith a'r dyfodol.

Wrth lansio eu hymgyrch yn Nhrefyclo ym Mhowys ddydd Mercher, roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey wedi rhoi ffocws ar ffermio.

Roedd wedi addo £1 biliwn o arian ychwanegol ar gyfer cyllideb amaethyddiaeth gyda'r bwriad fyddai helpu’r sector i wella cynhyrchiant, hyfforddiant a thechnoleg.

Ychwanegodd fod pobl Cymru wedi cael eu “cymryd yn ganiataol” am gyfnod rhy hir gan y Llywodraeth Geidwadol a bod yr etholiad yn gyfle am newid.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.