Newyddion S4C

Arestio dau wedi honiad i bobl gael rhyw y tu allan i archfarchnad yn Hwlffordd

29/05/2024
Morrsions Hwlffordd

Mae’r heddlu wedi arestio dau berson wrth ymchwilio i honiad i bobl gael rhyw yn gyhoeddus y tu allan i archfarchnad Morrisons yn Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y digwyddiad wedi “sarhau gwedduster cyhoeddus” yn Hwlffordd a bod delweddau wedi eu rhannu arlein.

“Yn y ddau ddigwyddiad roedd yn ymddangos bod dau berson yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol yn gyhoeddus,” meddai’r heddlu.

“Mae'r heddlu wedi cael gwybod bod delwedd o'r ail ddigwyddiad wedi bod yn cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol.

“Gofynnwn i'r ddelwedd beidio â chael ei rhannu ymhellach.”

Roedd y digwyddiad cyntaf ym mharc chwarae Morrisons tua 17.45 ddydd Sul 19 Mai.

Roedd yr ail ddigwyddiad ym maes parcio Morrisons tua 15.20 ddydd Llun 20 Mai.

Mae dyn 31 oed a dynes 41 oed wedi’u harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiadau gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu cyfeirnod trosedd 24000456738.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.