Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr Gwobr Tir na n-Og

29/05/2024
Yr enillwyr

Mae enillwyr categorïau Cymraeg Gwobr Tir na n-Og 2024 wedi cael eu cyhoeddi. 

Enillydd y categori cynradd ydy Jac a'r Angel gan Daf James, ac enillydd y categori uwchradd ydy Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter.

Mae Jac a'r Angel yn nofel 'ddoniol, annwyl a theimladwy' gyda oedolion a phlant yn gallu 'mwynhau stori’r bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd'.

Dywedodd Daf James: "Ers i fi fedru darllen yn blentyn, dwi wedi bod yn ymwybodol o wobrau Tir na n-Og, gan fod cynifer o’r awduron ro’n i’n eu mwynhau wedi ennill y wobr: awduron fel T. Llew Jones, J. Selwyn Lloyd, Irma Chilton, Gwenno Hywyn, Penri Jones, Jenny Nimmo... mae’r rhestr yn hirfaith! 

"Mae’n wobr hollbwysig sy’n dathlu ac yn tynnu sylw haeddiannol at lyfrau plant a phobl ifanc, ac mae cael ymuno â rhestr o arwyr llenyddol fy mhlentyndod yn gwireddu breuddwyd fawr i mi.

"Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau – nid dramâu – oedd fy angerdd llenyddol cyntaf. Roedd cael dianc i fyd y stori yn falm i’r enaid pan on i’n grwtyn bach ecsentrig, a dwi wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny."

Image
Y llyfrau buddugol
Y llyfrau buddugol

Mae enillydd y categori uwchradd, Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter yn canolbwyntio ar hanes Rosie sydd wedi gwirioni ar y gyfres deledu Yr Estronos ac ar ofodwyr. 

Mae 'creu cyfeillgarwch, am am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd' yn ganolog i'r nofel.

Dywedodd Megan Angharad Hunter: “Does ’na ddim geiria sy’n gallu esbonio gymaint ma’r anrhydedd hwn yn ei olygu i fi. Fel plentyn ac yn ystod fy arddegau, ro’n i wastad yn cadw llygad ar Wobrau Tir na n-Og felly mae ei hennill, a hynny am lyfr sy mor agos at fy nghalon – yn brofiad bendigedig o swreal.

"Bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o’n i’n yr ysgol felly gobeithio y bydd hi’n gysur i blant Cymru heddiw hefyd, ac yn mynd â nhw ar antur gyffrous a dychmygus ar draws y gofod!"

Fe gafodd enillwyr Gwobrau Cymraeg Dewis y Darllenwyr hefyd eu cyhoeddi, sef gwobrau arbennig wedi'u dewis o deitlau’r rhestr fer ymhob categori gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Gwobrau Tir na n-Og.

Mari a Mrs Clochgan Caryl Lewis ydy enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori cynradd, a Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam ydy enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr Cymraeg yn y categori uwchradd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.