Arestio dyn 20 oed ar amheuaeth o lofruddio dynes ar draeth
Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes wedi iddi gael ei thrywanu ar draeth yn Bournemouth.
Fe gafodd dwy ddynes o Poole eu trywanu ar draeth Durley Chine am tua 23:45 ar 24 Mai.
Fe fu farw Amie Gray yn y fan a'r lle, ac fe gafodd y ddynes arall ei chludo i'r ysbyty lle mae'n parhau gydag anafiadau difrifol.
Cyhoeddodd Heddlu Dorset fod dyn 20 oed o Croydon yn ne Llundain wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Richard Dixey: "Mae'r ymchwiliad wedi gwneud cynnydd dros y dyddiau diwethaf, sydd bellach wedi arwain at arestio dyn yn Llundain.
"Fe weithiodd swyddogion o Heddlu Dorset a'r timau arfau tanio gyda chydweithwyr o Heddlu'r Met er mwyn gallu ei arestio.
"Rydym yn parhau i ddiweddaru teulu a ffrindiau'r ddynes a fu farw yn ogystal â’r ddynes sydd yn yr ysbyty, gyda’r holl ddatblygiadau diweddaraf ac mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw."