Merch o Borthmadog yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn y Gemau Olympaidd
![ITV Cymru](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/2021-03/ITV_Cyrmu-Wales.png)
Mae Cymraes sydd wedi ei dewis i fod yn rhan o dîm nofio Prydain yn dweud ei bod yn "falch" i gael cystadlu yn y gemau Olympaidd ym Mharis eleni.
Dyma fydd y tro cyntaf i Medi Harris, o Borthmadog gymryd rhan mewn digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol.
Ond mae wedi bod yn nofio a chystadlu ers iddi fod yn 10 oed.
Er mwyn paratoi ar gyfer y gemau, ym mis Medi 2023 fe symudodd i Loughborough er mwyn gallu hyfforddi gyda'r tîm.
Mae Medi, sy'n 21 oed, yn dweud ei bod wedi dysgu llawer gyda'r athletwyr profiadol sydd o'i chwmpas a rhai sydd hyd yn oed wedi ennill medalau mewn Gemau Olympaidd yn y gorffennol.
Mae cynrychioli ei chenedl yn y tîm Prydeinig yn rhywbeth mae'n "falch" ohono.
“Mae pawb o hyd yn dweud hyn, mae’n gwneud ichi deimlo’n fwy balch oherwydd ry’n ni lot yn llai na Lloegr.
“Dwi wedi cael lot o fy ffrindiau yn dweud dylwn i gymryd baner Cymru (i'r gemau)," meddai.
Roedd y broses o gael ei dewis i fod yn rhan o'r tîm wedi digwydd yn eithaf sydyn.
“Mae pawb ar y tîm yn rili neis, a dim bod o (cael ei dewis i fod ar y tîm) ddim yn big deal, ond mae pawb yn gwneud yn siŵr doedd dim cymaint o bwysau arnoch chi.
“Mae yna deimlad teuluol a chymunedol o fewn y tîm, yn enwedig gyda’r genod. Ry’n ni yna i helpu ein gilydd, ry’n ni gyd eisiau gwneud ein gorau i’r tîm.”
Cyngor Medi i unrhyw un sydd eisiau dilyn yr un llwybr a hi a dod yn athletwr proffesiynol yw, “ jyst mwynhewch o gymaint â chi’n gallu.
“Pryd rydw i’n nofio fy ngorau, dwi wastad mor hapus. A does dim lot o bobl yn gallu dweud eu bod nhw’n ymroddedig i rywbeth. Mae’n bleser!”
Gyda'r Gemau Olympaidd yn cychwyn Gorffennaf 26 mae Medi yn gorfod hyfforddi yn aml. Ond mae'n gyffrous am ei dyfodol.