
Eisteddfod yr Urdd: Mwy o lwybrau i adael y maes parcio wedi tagfeydd ym Meifod
Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd wedi dweud eu bod nhw wedi "dyblu" nifer y ffyrdd o adael eu meysydd parcio wedi oedi wrth i bobl adael y maes ddoe.
Roedd adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol bod rhai pobl wedi bod yn aros dros ddwyawr er mwyn gadael y meysydd parcio ar ddydd Llun agoriadol yr ŵyl.
Fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd ymddiheuro am yr “anghyfleustra” nos Lun gan ddweud bod eu “timoedd yn gweithio'n galed i gael pawb allan cyn gynted â phosib”.

Mewn diweddariad ddydd Mawrth fe ddywedodd Eisteddfod yr Urdd: “Mae ein tîm diogelwch wedi dyblu nifer yr allanfeydd o feysydd parcio Eisteddfod yr Urdd o heddiw ymlaen.
“Wrth adael y meysydd parcio, gofynnwn i bawb ddilyn yr arwyddion at yr allanfeydd newydd yn ogystal â chyngor stiwardiaid a’r heddlu.
“Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i ymwelwyr ddoe.
"Edrychwn ymlaen at weddill yr Eisteddfod!”