Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth wedi 'ymosodiad difrifol' ar ddyn yng Ngorseinon

28/05/2024
Gwesty'r Orsaf

Mae’r heddlu yn Abertawe yn apelio am dystion i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd am 21.45 nos Sul yng Ngwesty’r Orsaf yng Ngorseinon. 

Cafodd dyn lleol 64 oed ei gludo i Ysbyty Treforys lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw dystion a oedd naill ai y tu mewn i Westy’r Orsaf neu y tu allan i’r eiddo, ac a allai fod wedi gweld unrhyw beth, i gysylltu â nhw.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dai Butt: “Roedd hwn yn ymosodiad difrifol iawn sydd wedi gadael dyn yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ac rydym am glywed gan unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth, waeth pa mor fach, a allai ein cynorthwyo yn ein hymchwiliad.

“Mae dau berson wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad hwn.

“Cafodd dyn 39 oed o Abertawe ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol. Mae’n parhau yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Canol Abertawe.

“Mae dynes 54 oed o Abertawe a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.”

Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu’r cyfeirnod: 2400172904.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.