Gwyliwch: Beicwyr yn neidio dros fwlch 70 troedfedd yn y canolbarth
Mae grŵp o feicwyr proffesiynol wedi neidio dros fwlch 70 troedfedd o hyd yn Nyffryn Dyfi.
Roedd y beicwyr yn gwneud y naid er mwyn profi rhan o gwrs newydd cystadleuaeth Red Bull Hardline.
Mae'r gystadleuaeth yn dychwelyd i'r ardal ym mis Mehefin.
Ac fel rhan o’r cwrs newydd eleni, bydd y rheiny sy’n cystadlu yn cael neidio o ben ochr un dibyn ceunant i’r llall – gan olygu eu bod yn neidio bwlch 70 troedfedd.
Fe aeth Bernard Kerr, Matt Jones a Jim Monro ati i brofi rhan o'r cwrs a ffilmio'r her.
Mae modd gwylio'r naid rhwng 44.01 a 53.18 isod.
https://www.youtube.com/watch?v=-8YXPSb-c6E&t=5s
Fe wnaeth y beiciwr Jim Monro gwympo oddi ar ei feic wrth geisio gwneud y naid a dioddef cyfergyd.
Llun: Bernard Kerr