Y Ceidwadwyr yn addo codi'r lwfans pensiwn di-dreth
Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw’n codi’r lwfans pensiwn di-dreth pe bai nhw'n ennill yr Etholiad Cyffredinol.
Bydd cynlluniau’r Prif Weinidog Rishi Sunak yn golygu toriad gwerth £2.4 biliwn i’r hyn mae pensiynwyr yn ei dalu. Bydd eu lwfans personol yn cynyddu o leiaf 2.5% neu’n unol naill ai gyda'u henillion uchaf neu chwyddiant.
Bydd yna doriad o tua £95 i’r unigolyn yn 2025-26, gan gynyddu i hyd at £275 yn 2029-30.
Dywedodd Rishi Sunak bod y cyhoeddiad yn dangos bod y Ceidwadwyr “yn cefnogi pensiynwyr.”
“Y dewis arall yw gadael i Lafur lusgo pawb sy’n cael pensiwn llawn i sefyllfa ble bydden nhw yn talu treth incwm am y tro cyntaf erioed.”
Mae disgwyl i bensiwn y wladwriaeth fod yn uwch na’r lwfans personol erbyn 2027.
Byddai’r cynlluniau yn golygu y bydd lwfans personol pensiynwyr bob amser yn uwch ‘na lefel pensiwn y wladwriaeth.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, mae’r blaid Lafur wedi dweud bod hyn yn gam "gorffwyll" gan blaid sydd wedi colli bob hygrededd o safbwynt yr economi.
Yn ôl Plaid Cymru mae hyn yn dangos eu bod yn ceisio crafu pleidleisiau gan gosbi’r ifanc a gwobrwyo’r henoed.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud bod y Torïaid eisoes wedi mynd yn groes i’w gair o ran cynlluniau’r ‘clo triphlyg’, gan ddweud na fydd pobl bellach yn ymddiried yn y blaid.