Dod o hyd i gorff yn Afon Gwy wrth chwilio am ddyn ifanc
Mae corff wedi ei ddarganfod wrth i’r heddlu chwilio am ddyn ifanc a syrthiodd yn Afon Gwy.
Cafodd yr heddlu eu galw am 18.35 nos Lun 20 Mai yn dilyn adroddiad bod Jake Jones, 20 oed, o Sedbury yng Nghas-gwent wedi mynd i mewn i’r afon.
Ymunodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys gwylwyr y glannau a Chymdeithas Achub Ardal Hafren yn y gwaith o chwilio am Jake, yn ogystal â swyddogion Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub Sir Caerloyw a Chymdeithas Achub Ardal Hafren.
Tua 07.15 bore dydd Sul fe wnaeth aelod o’r cyhoedd ddarganfod corff yn y dŵr, yn agos i geg Afon Gwy, yn ne ddwyrain Cymru.
Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau lwyddo i dynnu’r corff o’r dŵr.
Er nad yw’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, mae teulu Jake a’r crwner wedi cael gwybod.