Southampton nôl yn Uwch Gynghrair Lloegr
Mae clwb pêl-droed Southampton wedi llwyddo esgyn nôl i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl iddyn nhw guro Leeds United o 1-0 yn Wembley brynhawn ddydd Sul.
Daw hyn ar ôl iddyn nhw ddisgyn i’r Bencampwriaeth y llynedd.
Adam Armstrong sgoriodd y gôl dyngedfennol i Southampton yn yr hanner cyntaf.
Roedd pedwar o Gymry yng ngharfan Leeds United a bu bron i Daniel James, ddaeth ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner, unioni’r sgôr gydag ergyd a darodd y trawst ar ôl 83 munud.
Fe arbedodd McCarthy yn y gôl i Southampton ymgais arall gan James ar ôl 94 munud.
Roedd y Cymro David Brooks yn nhîm Southampton, ar fenthyg o glwb Bournemouth, ond bu’n rhaid iddo adael y cae gydag anaf i’w ysgwydd ar ôl 35 munud.
Mae Southampton yn ymuno â Chaerlŷr ac Ipswich yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.
Llun: Wotchit/AFP