Cwblhau prosiect atal llifogydd £6 miliwn ym Mangor
Mae prosiect gwerth bron i £6 miliwn wedi’i gwblhau ym Mangor er mwyn diogelu rhan o'r ddinas rhag effeithiau llifogydd.
Mae peirianwyr Cyngor Gwynedd wedi treulio’r 10 mis diwethaf yn codi waliau, gosod giatiau llifogydd newydd a chodi lefel y promenâd er mwyn diogelu ardal Hirael rhag effeithiau llifogydd.
Nod y prosiect yw amddiffyn bron i 200 o dai a siopau'r ardal a fydd yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan lifogydd wrth i lefel y môr godi.
Cafodd adnoddau hamdden ei wella fel rhan o’r gwaith hefyd, gyda llwybr beicio wedi’i osod yno.
Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth: “Mae’r gwaith pwysig yma yn lliniaru rhag perygl llifogydd yn ardal Hirael o Fangor ac mae o fudd i'r gymuned gyfan.
“Dwi’n siŵr bydd pobl leol yn manteisio yn ogystal ar y gwelliannau hamdden sydd wedi eu gwneud yn sgil y gwaith, gan gynnwys creu llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr a gosod meinciau newydd o gwmpas y promenâd.
“Mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybr Beicio Cenedlaethol yn mynd ar hyd y promenâd, dafliad carreg o Hirael, felly mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i wella cysylltiadau â’r ddau atyniad pwysig yma.”
Daeth y gymuned at ei gilydd i ddathlu cwblhau’r prosiect ac fe gafodd plac ei ddadorchuddio gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Beca Roberts, er mwyn nodi'r digwyddiad.