Newyddion S4C

Operation Julie: Gobaith am ddyfodol sioe seicadelig sy’n ‘rhan o ddiwylliant’ Cymru

25/05/2024

Operation Julie: Gobaith am ddyfodol sioe seicadelig sy’n ‘rhan o ddiwylliant’ Cymru

Mae cyfarwyddwr sioe gerdd sydd yn adrodd hanes un o ymgyrchoedd cyffuriau mwyaf yn hanes Cymru yn gobeithio “fod yna ddyfodol” wrth i daith y sioe ddirwyn i ben.

Mae Operation Julie, sydd yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr na Nog a Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth, yn olrhain hanes un o’r cyrchoedd gwrth-gyffuriau mwyaf yn hanes Prydain ers y 1970au.

Roedd Llanddewi Brefi a Thregaron wrth galon rhwydwaith oedd yn gyfrifol am ddosbarthu hyd at 90% o gyflenwad y cyffur seicadelig LSD i weddill y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn cyrch oedd yn cynnwys 800 o heddweision ar draws 10 o luoedd, cafodd 120 o bobl eu harestio yng Nghymru, Llundain, Caergrawnt a Ffrainc yn 1977, wrth i’r rhwydwaith gael ei ddymchwel. 

Image
Operation Julie - heddlu
Cafodd dros 150,000 o 'dabiau' LSD eu canfod gan yr heddlu mewn dau leoliad yng ngorllewin Cymru

Fe wnaeth yr heddlu ganfod 6.5 miliwn o ‘dabiau’ LSD ar draws y lleoliadau, oedd â gwerth o £100 miliwn – cyfwerth a £570 miliwn yn arian heddiw.

Fe gafodd sioe gerdd roc Operation Julie ei hysgrifennu, gan Geinor Styles er mwyn adrodd hanes yr ymgyrch, a hynny yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn 2022.

Dywedodd Geinor, cyfarwyddwr Operation Julie: “Odd rhywun wedi dweud y stori wrtha i mewn rhyw barti Nos Calan blynyddoedd maith yn ôl, ac yn Theatr na Nog, da ni’n gwneud lot o straeon am Gymru ac am bobl Cymraeg. 

“Ond do’n i erioed wedi clywed y stori yma, ac o’n i’n meddwl y byddai’n gwneud sioe gerdd ffantastic.”

'Hippies' a heddweision cudd

Wrth wraidd yr hanes mae grŵp o ‘hippies’ a ymgartrefodd yng ngorllewin Cymru, a swyddogion heddlu cudd oedd yn dynwared ‘hippies’ er mwyn ymdreiddio’r rhwydwaith dosbarthu.

Image
Operation Julie

Wrth greu’r sioe, roedd rhaid ymchwilio’n drylwyr a chlywed gan bobl o naill ochr y gyfraith, yn ôl Ms Styles.

Yn eu plith, fe wnaeth gyfweld ag Alston ‘Smiles’ Hughes – a oedd yn rhan allweddol o'r gadwyn LSD o’i gartref yn Llanddewi Brefi – ac Anne Parry, gwraig y diweddar Dditectif Sarjant Richie Parry.

“Wnes i fynd ati wedyn i ymweld â phobl, a'r person cyntaf nes i fynd i ymweld oedd Lyn Ebenezer. Roedd e wedi rhoi lot fawr o wybodaeth i fi pan o’n i’n dechrau ymchwilio’r stori yn y lle cyntaf.

“Nes i siarad gyda boi oedd yn delio â’r cyffuriau, pan oedd e’n byw yn Llanddewi Brefi, ‘Smiles’ (Alston Hughes). Nes i ymweld â theulu Richie Parry, un o’r prif ditectifs yr ymchwiliad cudd gan yr heddlu. 

“Lot o bobl oedd yn seiliedig gyda’r bobl oedd yn rhan o’r ochr yr heddlu a’r ochr arall hefyd, y bobl oedd yn gwneud ac yn dosbarthu’r cyffuriau. So mae wedi bod yn antur ffantastic i ymchwilio’r stori, ac wedyn i greu e mewn i sioe gerdd.”

Taith ehangach?

Cafodd y sioe ei pherfformio yng Nghaerfyrddin ac Aberhonddu yn ddiweddarach yn 2022, ac eleni mae wedi mynd ar daith ehangach, gan ymweld ag Aberystwyth, Casnewydd, Caerfyrddin, Aberhonddu, Swindon a Bangor, ers cychwyn Ebrill.

Er bod y sioe yn ymdrin â phwnc sydd yn parhau yn un hynod ddadleuol, mae Geinor Styles yn credu ei fod yn “bwysig” i adrodd yr hanes yng Nghymru a thu hwnt.

Ac wrth i’r daith bresennol ddod i’w derfyn yn Theatr y Lyceum yn Crewe nos Sadwrn, mae hi’n gobeithio y gallai’r sioe deithio’n ehangach yn y dyfodol.

“Mae’n ddiddorol, mae pobl Llanddewi Brefi a Tregaron ac ati, maen nhw’n eitha prowd o fod yn rhan o rywbeth wnaeth ddychryn lot fawr o’r establishment, a gaeth e lot fawr o sylw dros y byd i gyd.

Image
Geinor Styles, Cyfarwyddwr a sgriptiwr Operation Julie
Geinor Styles, Cyfarwyddwr a sgriptiwr Operation Julie

“Mae e yn rhan o’n diwylliant ni, o’n hanes ni. A be dwi’n meddwl sy’n ddiddorol yw, mae’n eitha diweddar yn ein hanes ni, a dwi’n meddwl bod angen clywed y straeon yna yn ogystal â’r straeon eraill sy’n dod allan o Gymru. Mae’n rili yn bwysig.

 “Mae’r ymateb ni di gael gan ein cynulleidfaoedd, a’r bobl sydd wedi dod i wneud reviews ar y sioe hefyd, wedi bod yn ffantastig ac maen nhw i gyd yn dweud dylse ni fod yn mynd ar daith ehangach, falle i Lundain. 

“A byddwn i wrth fy modd taswn ni’n  gallu gwneud hynny, oherwydd mae’n mynd a straeon Cymraeg dros y ffin i bobl eraill gwybod am ein hanes ni a’n diwylliant ni, a dwi’n meddwl bod e’n rili bwysig cael y cyfle yna. Ond pwy a ŵyr, gawn ni weld. 

“Mae pethau’n eitha anodd yn theatr yng Nghymru ar hyn o bryd felly pwy a ŵyr be sy’n mynd i ddigwydd. Ond da ni wedi cael gwledd arni yn bendant.”

Lluniau: Theatr na nOg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.