Merch yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio tri unigolyn yn Ysgol Dyffryn Aman
Mae merch 14 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe fore Gwener wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri unigolyn yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.
Cafodd dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, yn ogystal â disgybl eu hanafu mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gar ar 24 Ebrill.
Yn ystod y gwrandawiad ddydd Gwener, fe ymddangosodd y ferch, a oedd yn 13 oed adeg y digwyddiad, dros gyswllt fideo i gadarnhau ei henw.
Fe fydd yn ymddangos o flaen y llys y tro nesaf ar 12 Awst.
Bydd yn parhau i gael ei chadw mewn uned ddiogel i bobl ifanc,
Fe wnaeth y Barnwr Geraint Walters osod dyddiad arfaethedig o 30 Medi ar gyfer dechrau'r achos llys.
Does dim modd enwi'r ferch o achos ei hoedran.