Etholiad Cyffredinol: Beth yw eich etholaeth newydd ar ôl newid ffiniau?
Fe fydd yn etholiad ychydig yn wahanol i’r rhai blaenorol yng Nghymru ar 4 Gorffennaf eleni gyda phob ffin etholaethol heblaw am un yn newid a rhai ohonynt yn cael enwau newydd.
Mae nifer yr ASau Cymreig yn cael eu cwtogi o 40 i 32 yn dilyn adolygiad o’r ffiniau dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r cyfan yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan bob etholaeth nifer tebyg o bleidleiswyr ynddynt – rhwng 69,724 a 77,062.
Ynys Môn fydd yr unig eithriad am ei bod yn cael "statws gwarchodedig" am ei bod ar wahân i’r tir mawr.
Adolygodd y Comisiwn Ffiniau i Gymru ffiniau'r etholaethau eraill, gan olygu y bydd sawl sedd Gymreig yn diflannu yn eu ffurf bresennol a nifer yn newid yn sylweddol.
Oherwydd hynny bydd Cymru’n colli wyth sedd, gan fod gan y wlad yn flaenorol rai o’r etholaethau lleiaf yn y DU.
Dyma enwau a ffiniau etholaethau newydd ar gyfer seddi ASau yng Nghymru:
Aberafan Maesteg
Mae Aberafan Maesteg yn uno rhannau o bedair etholaeth flaenorol: Castell-nedd, Aberafan, Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr.
Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe
Mae Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe wedi'i hailenwi o Frycheiniog a Sir Faesyfed ac mae ei hardal wedi'i helaethu.
Alun a Glannau Dyfrdwy
Mae Alun a Glannau Dyfrdwy wedi ehangu.
Bangor Aberconwy
Mae Bangor Aberconwy yn uno rhannau o dair etholaeth flaenorol: Arfon, Aberconwy a Gorllewin Clwyd.
Blaenau Gwent & Rhymni
Mae Blaenau Gwent a Rhymni yn uno rhannau o bedair etholaeth flaenorol: Merthyr Tudful a Rhymni, Blaenau Gwent, Islwyn a Chaerffili. Mae mwyafrif y boblogaeth ar gyfer y sedd newydd yn dod o hen sedd Blaenau Gwent.
Bro Morgannwg
Mae ffin Bro Morgannwg wedi cael ei lleihau ychydig wrth i De Caerdydd a Phenarth gymryd brathiad allan ohono.
Caerfyrddin
Mae Caerfyrddin yn uno rhannau o ddwy hen etholaeth: Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Caerffili
Mae Caerffili yn uno rhannau o ddwy gyn etholaeth - Caerffili ac Islwyn - gyda mwyafrif y boblogaeth yn dod o sedd bresennol Caerffili.
Canol a De Sir Benfro
Mae Canolbarth a De Sir Benfro yn uno rhannau o ddwy hen etholaeth: Preseli Penfro, a Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Castell Nedd a Dwyrain Abertawe
Bydd sedd newydd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn cynnwys llawer o hen dioriogaeth Castell-nedd a rhannau o etholaethau blaenorol Gŵyr, Dwyrain Abertawe ac Aberafan.
Ceredigion Preseli
Mae Ceredigion Preseli yn uno rhannau o ddwy hen etholaeth: Preseli Penfro, a Cheredigion.
De Caerdydd a Phenarth
Mae De Caerdydd a Phenarth yn uno rhannau o dair hen etholaeth, gyda mwyafrif y boblogaeth yn dod o hen sedd De Caerdydd a Phenarth.
Dwyfor Meirionnydd
Mae Dwyfor Meirionnydd yn uno rhannau o dair hen etholaeth: Dwyfor Meirionnydd, Arfon a De Clwyd.
Dwyrain Caerdydd
Mae Dwyrain Caerdydd yn uno rhannau o ddwy hen etholaeth: Canol Caerdydd, a De Caerdydd a Phenarth.
Dwyrain Casnewydd
Bydd ffiniau newydd Dwyrain Casnewydd yn cynnwys llawer o diriogaeth yr etholaeth flaenorol, a rhywfaint o hen ffin Gorllewin Casnewydd.
Dwyrain Clwyd
Mae Dwyrain Clwyd yn uno rhannau o bedair hen etholaeth: Gorllewin Clwyd, Dyffryn Clwyd, De Clwyd a Delyn.
Gogledd Caerdydd
Mae etholaeth Gogledd Caerdydd wedi ehangu, gan gymryd rhan o hen sedd Pontypridd.
Gogledd Clwyd
Mae Gogledd Clwyd yn uno rhannau o ddwy hen etholaeth: Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd.
Gorllewin Abertawe
Mae ffiniau newydd Gorllewin Abertawe yn cynnwys rhannau o hen ffiniau Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe.
Gorllewin Caerdydd
Mae ardal Gorllewin Caerdydd wedi ehangu, gan gynnwys rhan o etholaeth Pontypridd.
Gorllewin Casnewydd ac Islwyn
Mae Gorllewin Casnewydd ac Islwyn yn uno llawer o'r hyn oedd yn flaenorol yn seddi ar wahân â’r un enwau.
Gŵyr
Mae Gŵyr yn cyfuno rhannau o dair hen etholaeth, gyda mwyafrif y boblogaeth yn dod o hen sedd Gŵyr.
Llanelli
Mae ardal Llanelli wedi'i hehangu i gynnwys rhai o hen seddi Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr hefyd.
Maldwyn a Glyndŵr
Mae ffin newydd Maldwyn yn cynnwys hen sedd Sir Drefaldwyn yn ogystal â rhywfaint o hen sedd De Clwyd.
Merthyr Tudful ac Aberdâr
Mae Merthyr Tudful ac Aberdâr yn uno rhannau o ddwy etholaeth bresennol - Merthyr Tudful a Rhymni, a Chwm Cynon - gyda rhan fechan iawn o hen sedd Brycheiniog a Maesyfed.
Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn uno rhannau o ddwy etholaeth flaenorol - Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr - gyda mwyafrif y boblogaeth yn dod o hen sedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Pontypridd
Mae ffin newydd Pontypridd yn cynnwys rhannau o hen ffiniau Pontypridd, Cwm Cynon ac Ogwr.
Rhondda ac Ogwr
Mae Rhondda ac Ogwr yn cynnwys sedd y Rhondda, yn ogystal â rhannau o etholaethau Ogwr a Phontypridd.
Sir Fynwy
Mae mwyafrif yr etholaeth yn dod o hen sedd Trefynwy, gan gymryd brathiad o hen sedd Dwyrain Casnewydd.
Torfaen
Mae ardal Torfaen ychydig yn fwy, gan gynnwys rhan fach o hen sedd Mynwy.
Wrecsam
Mae Wrecsam yn cynnwys sedd blaenorol Wrecsam, a hefyd rywfaint o sedd flaenorol De Clwyd.
Ynys Môn
Does dim newid i’r fam ynys – yr unig etholaeth yng Nghymru sy’n cadw ei ffiniau presennol. O ganlyniad mae dipyn yn llai nag etholaethau eraill Cymru – gyda 50,0900 o etholwyr yn hytrach na rhwng rhwng 69,724 a 77,062.
Pob llun gan San Steffan.