Y Gweilch i chwarae eu rygbi ar faes Sain Helen yn Abertawe?
Mae penaethiaid Cyngor Abertawe yn gobeithio denu rhanbarth y Gweilch i chwarae eu rygbi ar faes Sain Helen yn y ddinas.
Mae'r cyngor yn gobeithio denu'r clwb i chwarae yng nghartref Clwb Rygbi Abertawe ar ôl i’r Gweilch ddweud nad ydyn nhw bellach yn bwriadu chwarae yn Stadiwm Swansea.com ar ôl tymor 2024-25.
Mae’r Gweilch wedi cadarnhau mai Sain Helen a Chae Bragdy Dunraven ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd ar frig eu rhestr wrth chwilio am gartref newydd.
Roedd y ddau faes, meddai'r clwb, yn cynnig manteision unigryw.
Byddai angen buddsoddiad sylweddol ar faes Sain Helen, sy’n eiddo i’r cyngor, ac er nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud gan y Gweilch eto.
Byddai symud yno, o bosib, yn rhoi diwedd ar 149 mlynedd o chwarae criced ar y maes.
“Rydym yn barod i weithio ar gynnig presennol y Gweilch i Sain Helen ddod yn stadiwm rygbi modern, gan helpu’r rhanbarth i wneud eu cartref yno ac aros yn Abertawe,” meddai arweinydd y cyngor, Rob Stewart.
“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r Gweilch i aros yn Abertawe, tra hefyd yn gweithio gyda’n holl randdeiliaid chwaraeon i ddarparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar eu cyfer.”
Cyhoeddodd prif weithredwr y Gweilch, Lance Bradley ym mis Ionawr y byddai'r rhanbarth yn gadael Stadiwm Abertawe.com sy'n dal 20,000 o gefnogwyr am leoliad llai.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Clwb Rygbi Castell-nedd na fyddai eu cartref yn Y Gnoll yn cael ei gynnig fel maes newydd i'r Gweilch.
Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr y byddai symud y Gweilch i Gae'r Bragdy, a oedd yn cynnal gemau'r Gweilch yn erbyn Rygbi Caerdydd a'r Sharks a Sale y tymor hwn, o fudd i'r dref a'r clwb.