Newyddion S4C

Cynnydd yn nifer siaradwyr Gaeleg yr Alban

23/05/2024

Cynnydd yn nifer siaradwyr Gaeleg yr Alban

Maen nhw'n eiriau cymharol anghyfarwydd i nifer yn yr Alban ond maen nhw'n dechrau dod yn fwy cyfarwydd.

Mae ffigyrau Cyfrifiad 2022 yn dangos cynnydd yn nifer siaradwyr Gaeleg yr Alban.

Roedd 57,602 o bobl o'dd yn siarad yr iaith yn 2011 ond yn 2022, roedd 69,701 yn gallu.

Cynnydd yn nifer y plant sy'n astudio'r iaith yn yr ysgol sy'n gyfrifol am y ffigyrau calonogol yn ôl arbenigwyr.

Ond mae galw i wneud mwy i hybu'r iaith y tu hwnt i'r dosbarth.

"Os na fydd 'na gornel yn cael ei throi efo'r Gaeleg mi welwn ni y bydd hi'n iaith rwydweithiau.

"Bydd hi'n iaith gymdeithasau a lleiafrifoedd bychan o fewn poblogaethau llawer mwy.

"Fydd hi'm yn iaith gymunedol ddaearyddol fel oedd hi dros y canrifoedd."

Mae tystiolaeth fod hynny eisoes yn digwydd gyda'r iaith yn colli tir yn rhai o'i chadarnleoedd traddodiadol.

Ar ynysoedd gorllewinol yr Alban, mae'r iaith yn un lleiafrifol.

Roedd 54% o bobl yr ynysoedd yn siarad yr iaith yn 2011 ond mae'r ffigwr wedi gostwng i 45% yn ôl Cyfrifiad 2022.

"Mae'r Gaeleg sy'n cael ei siarad yn Skye yn wahanol iawn i Lewis.

"A'r argraff dw i'n cael ydy y bydd y gwahaniaethau yma sy'n rhan o gyfoeth yr iaith yn cael eu tanseilio ac yn marw allan os ydy'r iaith yn marw yn y cadarnleoedd."

Er bod sefyllfa'r Gymraeg dipyn yn fwy cadarnhaol roedd 'na ostyngiad yn nifer y siaradwyr yn ôl Cyfrifiad 2021 gyda'r dirywiad yn y cadarnleoedd hefyd yn broblem amlwg.

Sut felly, mae mynd ati i sicrhau dyfodol iaith leiafrifol?

"Mae angen astudiaethau llawer mwy manwl sy'n dadansoddi pryd, hefo pwy o dan ba amgylchiadau mae pobl yn siarad yr iaith.

"Yr hyn 'dan ni'n weld ydy bod angen economi gryf i gadw iaith.

"Mae angen cynllunio economaidd a ieithyddol i gydredeg."

'Cugallach' - sef ansicrwydd, sensitifrwydd ac ansefydlogrwydd.

Gair, sydd er y newyddion calonogol yn dal i gyfleu dyfodol un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.