Cyhuddo tri o ddwyn Jetskis yng ngogledd Cymru
22/05/2024
Mae tri dyn wedi eu cyhuddo ar ôl i feiciau dŵr, neu Jetskis gael eu dwyn o ardal Pentraeth, Sir Fon ddydd Llun.
Bydd Alexandru Pisela, 21, Iulicia Pisela, 47, a Konstantinos Vasilopoulous, 22 sydd oll o Lundain yn ymddangos o flaen y Llys Ynadon yn ddiweddarach ddydd Mercher.
Mae’r tri dyn yn dod o ardal Llundain ac wedi eu cyhuddo o ddwyn.
Fe wnaeth swyddogion Uned Plismona'r Ffyrdd stopio fan ar yr A55 Llanelwy gan nad oedd gan y gyrrwr yswiriant.
Wrth agor cefn y fan fe ddaeth swyddogion o hyd i feic dŵr, neu Jetski.
Yn ddiweddarach y bore hwnnw fe gafwyd adroddiadau bod nifer o feiciau dŵr wedi eu dwyn ar Ynys Môn.