Llafur yn cefnu ar arian ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething
Mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi na fydd yn cymryd arian a dderbyniodd Vaughan Gething yn ystod ei ymgyrch i arwain y blaid yng Nghymru.
Yn ôl y blaid Lafur, bydd yr arian yn cael ei roi yn hytrach i achosion "blaengar"
Mae'r cyfraniadau sylweddol a dderbyniodd y Prif Weinidog wedi achosi problemau mawr iddo ers cael ei ethol fis Mawrth.
Cyhoeddodd y Blaid Lafur ddydd Mawrth na fydd y £31,000 sy'n weddill o'r £251,000 a gafodd ei godi, bellach yn cael ei drosglwyddo i'r blaid yn ganolog.
Yn hytrach, bydd yn cael ei roi i wahanol achosion, medd y blaid.
Daw'r cyhoeddiad wedi i'r gwrthbleidiau yn y Senedd feirniadu penderfyniadau Mr Gething yn chwyrn, gyda rhai o fewn ei blaid ei hun hefyd yn codi cwestiynau, ar ôl iddo dderbyn arian gan ddyn sydd wedi ei ganfod yn euog o droseddau amgylcheddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Lafur Cymru: “Yn unol â'r hyn sydd wedi ei gytuno gan y Gweithgor Cymreig, bydd Vaughan Gething yn rhoi'r arian na chafodd ei wario yn ystod ei ymgyrch i achosion blaengar yn ehangach.”
Doed dim cadarnhad pa achosion yn union sydd wedi eu dewis, ac mae disgwyl i'r gweithgor ystyried nifer o opsiynau a gaiff eu cynnig gan y Prif Weinidog.
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw ar Mr Gething i ddychwelyd cyfraniad o £200,000 a dderbyniodd yn ystod ei ymgyrch i arwain Llafur Cymru.
Dauson Environmental Group roddodd yr arian iddo - cwmni David Neal, sydd wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.
Mae Mr Gething yn mynnu na all wneud unrhyw benderfyniadau mewn cyswllt â chwmni Dauson, sydd wedi ei leoli yn ei etholaeth.
Wrth ymateb i'r newyddion na fydd Llafur yn cadw'r arian, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig,Andrew RT Davies: “ Nid yw'r Blaid Lafur a wnaeth ethol Jeremy Corbyn hyd yn oed eisiau cyffwrdd yn yr arian hwn.”