Newyddion S4C

Sgandal gwaed: 'Cywilydd' medd Rishi Sunak

20/05/2024

Sgandal gwaed: 'Cywilydd' medd Rishi Sunak

Gallai’r sgandal gwaed “fod wedi’i osgoi i raddau helaeth”, yn ôl canfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus i un o achosion gwaethaf y GIG.

Mae'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig hefyd wedi canfod bod ymdrechion bwriadol wedi cael eu gwneud i guddio’r gwirionedd.

Mae’r adroddiad 2,527 tudalen a gafodd ei gyhoeddi fore Llun yn cyfeirio at “gatalog o fethiannau” a arweiniodd at ganlyniadau “trychinebus”.

Syr Brian Langstaff gadeiriodd yr ymchwiliad, a dywedodd y gellid wedi wedi osgoi yr hyn ddigwyddoodd i raddau helaeth, ond ddim yn gyfan gwbl.

Cafodd mwy na 30,000 o bobl HIV ac Hepatitis C ar ôl iddyn nhw gael gwaed neu drallwysiad gwaed oedd wedi ei heintio.

Mae tua 3,000 o bobl ym Mhrydain wedi marw ers derbyn y gwaed rhwng y 70au a'r 90au.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn ddydd Llun dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak bod yr adroddiad yn dangos "degawadau o fethiant moesol."

“Dyma ddiwrnod o gywilydd i Brydain.

“Mae’r adroddiad heddiw yn dangos degawdau hir o fethiant moesol wrth galon ein bywyd cenedlaethol – o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’r gwasanaeth sifil, i weinidogion mewn llywodraethau olynol. Ar bob lefel, mae’r bobl a’r sefydliadau yr ydym yn ymddiried ynddynt wedi ein methu yn y ffordd fwyaf dirdynnol a dinistriol.

“Fe fethon nhw’r dioddefwyr a’u teuluoedd ac fe fethon nhw’r wlad hon.”

'Sgandal gwaethaf'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Eluned Morgan ei fod yn briodol bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a'u bod yn gobeithio bod canfyddiadau'r adroddiad "wedi rhoi atebion i'w cwestiynau a'u pryderon."

"Dyma'r sgandal gwaethaf o ran triniaethau gan y GIG. Er iddo ddigwydd cyn datganoli, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, hoffwn ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y methiant ofnadwy hwn," meddai.

"Hoffwn ddiolch i Syr Brian am ei amser a'r agwedd dosturiol a ddangosodd yn ystod yr ymchwiliad. Hoffwn hefyd nodi fy edmygedd o'r cryfder a ddangoswyd gan bawb a roddodd dystiolaeth am eu profiadau personol a'u teuluoedd. Bu llawer ohonynt yn ymgyrchu am ddegawdau am ymchwiliad cyhoeddus. 

"Mae'n briodol bod eu lleisiau wedi cael eu clywed ac rwy'n gobeithio bod goroeswyr a'u teuluoedd yn teimlo bod yr ymchwiliad wedi ystyried eu tystiolaeth ac wedi rhoi atebion i'w cwestiynau a'u pryderon."

Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion yr adroddiad "yn ofalus ac yn fanwl".

"Rydym yn cael copi o adroddiad ac argymhellion Syr Brian. Rydym wedi ymrwymo o hyd i weithio ar sail pedair gwlad i ymateb i argymhellion yr ymchwiliad. Ein nod fydd sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i fuddiolwyr a'u teuluoedd yng Nghymru," ychwanegodd.

'Atebion'

Un a gafodd ei effeithio gan y sgandal yw Owain Harris o Dreorci yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd ei dad Norman waed heintiedig wedi iddo gael trinaeth newydd yn y 70au a'r 80au cynnar oedd yn cynnig gobaith newydd i bobl â hemoffilia.

"Darganfuodd bod hemoffilia arno fe yn y diwrnodau cyntaf ar ôl iddo fe gael ei eni. Mae’n glefyd eitha anghyffredin i fod yn onest. Odd dim triniaeth o gwbl yn y 40au ar gyfer hemoffilia," meddai Owain Harris. 

"Roedd [y driniaeth] yn galluogi fe i ymdrin â unrhyw waedu ei hun... yn y cartref neu os oedden ni i ffwrdd ar wyliau yn y garafán.

"Am cyfnod o ddiwrnodau bydde fe’n chwistrellu Factor VIII i mewn i'w wythiennau fe.

"Darganfuodd fy nhad a fy mam yn ystod canol yr 80au bod e wedi dal Hepatitis C a hefyd bod ganddo fe HIV.

"Yr un peth ni’n gofyn am nawr, ni’n dal yn gofyn am atebion i beth ddigwyddodd.

"Fi jest mo'yn i camgymeriadau fel hyn beidio digwydd eto, Nage jest un person oedd yn gyfrifol am, wel o’n i mynd i weud y saga yma sy wedi mynd ymlaen am degawdau. 

"Jest licen i wybod pwy sy ar fai, i fod yn onest a pam ma' nhw ar fai. Be ma nhw ‘di neud yn wrong?"

'Trallod' 

Mae cadeirydd yr ymchwiliad, Syr Brian Langstaff wedi disgrifio'r drychineb yn “drallod”.

Ac mae'n nodi sut “mae’r gwir wedi ei guddio ers degawdau”.

Roedd tystiolaeth bod dogfennau’r Adran Iechyd wedi cael eu “marcio” i’w dinistrio yn 1993, meddai.

“Wrth edrych ar ymateb y GIG a Llywodraeth y DU yn gyffredinol, yr ateb i’r cwestiwn ‘A oedd yna guddio?’ yw y bu,” meddai.

“Nid yn yr ystyr o lond llaw o bobl yn cynllwynio mewn cynllwyn i gamarwain, ond mewn ffordd a oedd yn fwy cynnil, yn fwy treiddiol ac yn fwy iasoer yn ei oblygiadau. Fel hyn mae llawer o’r gwirionedd wedi bod yn cuddio.”

Dywedodd Syr Brian fod “lefel y dioddefaint yn anodd i ddeall” a bod y niwed wedi’i waethygu gan ymateb llywodraethau olynol, y GIG a’r proffesiwn meddygol.

Ychwanegodd fod honiadau gan lywodraethau olynol y DU bod cleifion yn derbyn y driniaeth feddygol orau ar y pryd, a bod sgrinio gwaed wedi’i gyflwyno ar y cyfle cyntaf yn “anwir”.

Mae gweinidogion San Steffan wedi clustnodi £10 biliwn ar gyfer pecyn iawndal i'r rhai sydd wedi dioddef.

Mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth neu ddydd Mercher.

Mae'r adroddiad hefyd wedi annog unrhyw un a gafodd drallwysiad gwaed cyn 1996 i gael cynnig prawf Hepatitis C ar frys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.