Newyddion S4C

Bachgen 14 oed wedi marw a bachgen 13 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl mynd i drafferthion mewn afon

19/05/2024
Pont Ovingham

Mae bachgen 14 oed wedi marw ac mae bachgen 13 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl mynd i drafferthion yn Afon Tyne yn Ovingham, Northumbria.

Cafodd yr heddlu eu galw am 3.30pm ddydd Sadwrn oherwydd pryderon am les dau fachgen yn eu harddegau oedd yn yr afon ger y bont yn Ovingham.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon ar unwaith ac fe gafodd un o’r bechgyn, 13 oed, ei achub o’r dŵr.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.

Cafwyd hyd i gorff y bachgen 14 oed yn y dŵr yn ddiweddarach ar ôl chwilio amdano ac fe gyhoeddwyd ei fod wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae rhieni’r ddau fachgen yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, meddai’r heddlu.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Helena Barron o Heddlu Northumbria ei fod yn “ddigwyddiad cwbl drasig”.

“Rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd y ddau fachgen ar yr amser anodd hwn wrth i ni barhau i’w cefnogi,” meddai.

“Roedd nifer o asiantaethau yn rhan o’r digwyddiad ac rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth yn fawr.

“Gyda thristwch mawr na allem ddarparu diweddariad mwy cadarnhaol.”

Llun: Pont Ovingham. Llun gan Hayley Green.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.