Newyddion S4C

Ymchwil canser y fron er cof am seren bop Girls Aloud 'wedi llwyddo'

19/05/2024
Sarah Harding

Mae ymchwil i ganser y fron a gafodd ei ariannu er cof y gantores Sarah Harding wedi "llwyddo" yn y nod o ddod o hyd i fenywod oedd yn debygol o ddioddef â’r clefyd. 

Fe gafodd Asesiad Risg Canser y Fron mewn Menywod Ifanc (BCAN-RAY) ei lansio'r llynedd, a hynny er cof am y seren bop Girls Aloud a fu farw yn 39 oed o ganser y fron yn 2021.

Ei gobaith adeg ei thriniaeth oedd dod o hyd i ffyrdd newydd o adnabod symptomau canser y fron yn gynharach er mwyn galluogi triniaeth fwy effeithiol.

Ac mae’r gwaith ymchwil, sy’n cael ei ariannu gan Elusen Christie, Cancer Research UK ac Apêl Canser y Fron Sarah Harding, bellach wedi gallu adnabod rhai menywod a fyddai’n debygol o ddioddef â’r clefyd fel bod modd iddyn nhw dderbyn triniaeth ynghynt.

Nod y gwaith yw dod o hyd i’r ffactorau risg sy’n cael ei ganfod gan amlaf mewn menywod â'r clefyd, gan alluogi iddynt adnabod y symptomau fwyaf cyffredin, gan arwain at driniaeth fwy effeithiol yn gynharach.

O ganlyniad i’r ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Manceinion, lle derbyniodd Ms Harding ei thriniaeth yn ysbyty canser Christie, mae rhai menywod, gan gynnwys y rhai sydd heb unrhyw hanes teuluol o ganser y fron, wedi cael gwybod eu bod yn fwy tebygol o ddioddef â'r clefyd.

Wedi i Anna Housley, 39 oed o Fanceinion, cael gwybod ei bod yn fwy tebygol o ddioddef â chanser y fron, mi fydd hi bellach yn gymwys i dderbyn mamogramau blynyddol a thriniaeth feddygol yn ôl ei dymuniadau.

Y gobaith yw y byddai pob menyw yn y dyfodol yn gallu cael asesiad risg o’r fath pan eu bod yn troi’n 30 oed.

Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth gan deulu Ms Harding yn ogystal â’i chyn-aelodau band Girls Aloud, sef Cheryl Tweedy, Kimberley Walsh, Nadine Coyle a Nicola Roberts. 

Llun: Ian West/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.