Newyddion S4C

Goleuni’r gogledd yn weledol eto’n ‘fuan’ medd arbenigwr

18/05/2024
Goleuni'r Gogledd

Bydd goleuni’r gogledd yn weledol unwaith eto yn y Deyrnas Unedig o fewn ychydig wythnosau, yn ôl arbenigwyr.

Cafodd y goleuadau - a elwir hefyd yn Gwawl y Gogledd neu Lewyrch yr Arth - eu gweld ar draws Cymru gyfan ddydd Gwener a Sadwrn yr wythnos diwethaf.

Mae stormydd geomagnetig yn digwydd pan fydd yr haul yn rhyddhau gronynnau wedi'u gwefru tuag at y Ddaear.

Dywedodd Krista Hammond o’r Swyddfa Dywydd y bydd yr un ochr bywiog o’r haul wedi troelli yn ôl i wynebu'r Ddaear mewn 10 i 12 diwrnod.

“Rydyn ni ar uchafbwynt solar ar hyn o bryd ac felly’n gweld mwy o frychau ar yr haul,” meddai.

“Mae yna fwy o dywydd gofodol ac felly mae aurora borealis i’w weld.”

Image
Dihewyd gan Lleucu Ifans
Llun gan Lleucu Ifans

Ond dywedodd y byddai yn annhebygol bod yr aurora mor gryf ag yr wythnos diwethaf.

“Roedd yr  amgylchiadau yn unigryw iawn y penwythnos diwethaf,” meddai.

“Mae’n annhebygol y bydd yr un brychau ar yr haul yn gwneud yr un peth eto.

“Fyddwn i ddim yn synnu pe bai’n dod o gwmpas a bod rhywfaint o weithgaredd arno, ond rwy’n amau na fydd hynny’n cael ei ailadrodd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.