Carthffosiaeth: Rhybudd nofio ar rai o draethau Cymru ar benwythnos braf
Mae elusen wedi cyhoeddi 19 o rybuddion i gymryd gofal cyn nofio yn y môr oherwydd carthffosiaeth wrth i’r tywydd godi yn braf yng Nghymru dros y penwythnos.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi dweud y bydd y tymheredd yn cyrraedd uchafbwynt o 22°C yng Nghymru ddydd Sadwrn a Sul.
Mae disgwyl ysbeidiau heulog ddydd Sadwrn a diwrnod braf ddydd Sul gyda rhai cawodydd gwasgaredig yn hwyrach.
Ond dywedodd Surfers Against Sewage bod adroddiadau o garthion yn cael eu rhyddhau o fewn y 48 awr ddiwethaf yn ardaloedd gan gynnwys Llandudno, traeth ar Ynys Môn ac Ynys y Barri.
Mae’r elusen yn monitro ansawdd dŵr mewn dros 450 o leoliadau afonydd ac arfordirol yn y DU.
Mae carthffosiaeth yn aml yn cael ei ryddhau i’r dŵr pan fydd tanciau neu bibellau tanddaearol yn gorlenwi o ganlyniad i law trwm.
Inline Tweet: https://twitter.com/RobertMelen/status/1791775330203578857
Mae rhybuddion yn:
- Prestatyn
- Rhyl
- Bae Colwyn
- Llandrillo-yn-rhos
- Llandudno
- Llanfairfechan
- Rhosneigr
- Craig Du
- Llandanwg
- Llanenddwyn
- Fairbourne
- Aberdyfi
- Gorllewin Angl
- Llanusyllt
- Coppet Hall
- Wiseman's Bridge
- Pen-bre
- Aberogwr
- Y Barri