Newyddion S4C

Y cyflwynydd teledu Anne Robinson yn cadarnhau perthynas â chyn-ŵr y Frenhines

18/05/2024
Anne Robinson

Mae’r cyflwynydd teledu Anne Robinson wedi cadarnhau ei bod mewn perthynas â chyn-ŵr y Frenhines Camilla, Andrew Parker Bowles.

Roedd adroddiadau heb eu cadarnhau y llynedd wedi awgrymu bod cyn-gyflwynydd The Weakest Link, 79, a’r cyn-swyddog marchoglu, 84, mewn perthynas.

Nawr mae Robinson wedi cadarnhau eu bod nhw, gan ddweud wrth gylchgrawn Saga: “Ydyn. Atalnod llawn. Cadwch at eich busnes eich hunain."

Wrth siarad am chwilio am gariad yn ei saithdegau, ar ôl bod yn sengl am fwy na degawd, dywedodd: “Ro'n i wedi bod allan o’r gêm am amser hir. A hefyd dydw i ddim yn yfed. Os nad ydych chi'n yfed, dydych chi ddim mor anastyriol, ydych chi?

“Rwy’n gredwr mawr mewn synnu eich hun trwy fentro. Yn bersonol ac yn broffesiynol... Os mai teimlo ychydig o embaras yw'r peth gwaethaf all ddigwydd, nid yw hynny’n ofnadwy, nac ydyw?”

Ffrindiau

Ac wrth siarad am pam fod canlyn yn haws wrth fynd yn hŷn, dywedodd: “Rydych chi'n llawer mwy detholus ynglŷn â'r hyn rydych chi'n mynd i boeni amdano. Does dim byd o bwys cymaint â hynny. Dydych chi ddim yn mynd i newid.”

Bu Robinson yn briod â’r diweddar Charles Wilson tan 1973, ac fe gafodd ysgariad oddi wrth ei hail ŵr, John Penrose, yn 2007.

Fe briododd Andrew Parker Bowles â Camilla ym 1973 a chawsant ddau o blant gyda'i gilydd, Tom a Laura, cyn ysgaru ym 1995.

Mae Parker Bowles a’r Frenhines wedi parhau’n ffrindiau dros y blynyddoedd.

Bydd y cyfweliad llawn â Robinson yn rhifyn mis Mehefin o'r cylchgrawn Saga.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.