Newyddion S4C

Cynrychioli Cymru ar ôl diagnosis o ganser

17/05/2024

Cynrychioli Cymru ar ôl diagnosis o ganser

Rhedeg, nofio, seiclo - mae Laura Butcher yn un sy'n hoffi her.

Yr her fwyaf iddi hyd yn hyn yw curo cancer.

"O'dd e'n Awst 2020 ac es i mas ar y beic triathlon training a wnes i gwympo a torri collar bone.

"Es i i'r ysbyty a cael medication am nerve damage ar y collar bone.

"Wnes i ffindo bod fi methu mynd i'r tŷ bach.

"Ar ôl tair wythnos, o'n i dal ddim yn mynd yn iawn a wnes i sylweddoli ar waed pan o'n i'n mynd i'r ty bach."

Roedd y profion cyntaf i Laura yn awgrymu nad oedd canser arni ond wedi i'w mam cael canser y coluddyn yn 2010 roedd Laura yn deall y symptomau ac yn gwybod bod rhywbeth o'i le.

"Yn Gorffennaf 2021, o'n i'n mynd am sigmoidoscopy.

"Wnaethon nhw ddweud, "Really sorry, Laura, you've got rectal cancer."

"Bywyd wedi stopio mewn eiliad."

Gwneud ymarfer corff fyddai'r peth olaf ar feddyliau nifer o bobl wrth fynd trwy driniaeth canser ond roedd Laura'n benderfynol o barhau i hyfforddi.

Mewn llai na blwyddyn, mae 'di mynd o heb gystadlu o gwbl i gael ei dewis i gynrychioli ei gwlad.

"Wnes i ras aquathon, sef nofio, wedyn rhedeg.

"O'n i 'di qualifyo am team tri Cymru.

"Yn yr haf, wnes i gystadleuaeth aquabike sef nofio a wedyn beicio, so triathlon heb y rhedeg.

"Wnes i qualifyo am dîm GB."

Mae profiad pawb o ganser yn wahanol ond mae'n un positif i Laura.

"Mae'n swnio'n od ond make or break oedd canser i fi.

"Dw i weithiau'n dweud o'n i angen y canser sy'n swnio'n od ond o'n i angen rhywbeth i pwsho fi.

"O'n i ddim yn gwybod mor gymaint o resilience o'n i 'di cael tan o'n i 'di cael canser.

"Wi 'di troi e o rywbeth negatif i rywbeth positif."

"Come on, Laura!"

Mae Laura'n dal i gael problemau gyda'i stumog a'i choluddyn ond ym mis Gorffennaf, bydd hi'n cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Aquathon Prydain i athletwyr amatur.

Yn yr hydref, bydd hi'n cynrychioli tîm Prydain ym Mhencampwriaeth Treiathlon y Byd i athletwyr rhwng 40 a 44 oed.

"Bydd e'n dda a rili cŵl i wisgo tri suit hefo big red dragon.

"I wneud y World Championships ym mis Hydref yn Sbaen i tîm GB bydd hwnna'n wow ac yn once-in-a-lifetime opportunity.

"Dw i'n edrych ymlaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.