Newyddion S4C

Cyflwyno cymorth personol i bobl sydd wedi dioddef arferion trosi

17/05/2024
Banner LHDTC+

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei fod am ddarparu'r gwasanaeth cymorth personol “cyntaf o'i fath” i bobl o’r gymuned LHDTC+ sydd wedi dioddef a goroesi arferion trosi. 

Mae 'arferion trosi' yn cyfeirio at unrhyw fath o driniaeth, ymddygiad neu seicotherapi sy'n ceisio newid cyfeiriadedd rhywiol unigolyn neu atal hunaniaeth rhywedd unigolyn.

A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia ddydd Gwener, fe ddaw’r cyhoeddiad fel rhan o “ymrwymiad ehangach i wella hawliau pobl LHDTC+” yng Nghymru, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Lesley Griffiths. 

Gyda phartneriaeth â Galop, sef elusen ar gyfer hawliau LHDTC+, mae disgwyl i'r gwasanaeth cymorth personol newydd gael ei lansio yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Amy Roch, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Galop, fod gwaith ymchwil yr elusen yn dangos bod camdriniaeth i’w wneud ag arferion trosi yn “broblem sylweddol sy'n parhau.” 

“Mae trawma seicolegol, emosiynol a chorfforol arferion trosi yn cael effeithiau difrifol a hirdymor ar eu dioddefwyr. 

“Gwyddom fod angen cymorth arbenigol hirdymor ar oroeswyr y gamdriniaeth hon i'w helpu i symud ymlaen o'r hyn sydd wedi digwydd iddynt, ac i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gallu cyflawni eu potensial,” meddai. 

Fe fydd y gwasanaeth hefyd yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau hanfodol i sefydliadau sy'n ceisio cefnogi pobl LHDTC+, ac mae sawl sefydliad wedi ymrwymo i helpu goroeswyr a phobl sy'n agored i arferion trosi LHDTC+ i gael cymorth.

Dywedodd Lesley Griffiths: "Mae gan sefydliadau ledled Cymru rôl hanfodol wrth weithio gyda ni i gefnogi'r gymuned LHDTC+, ac rwy'n eu hannog i gofrestru eu diddordeb i'n helpu ni.

"Mae'r gwaith yn parhau i sicrhau bod camau ar waith i'r gwasanaeth fod ar gael yn ddiweddarach eleni."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.