Rhybudd melyn am law i rai siroedd yng Nghymru
16/05/2024
Mae rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer nifer o siroedd ar draws Cymru ddydd Iau.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 13:00 ac yn aros mewn grym tan 23:00.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall llifogydd ar y ffyrdd amharu ar gynlluniau teithwyr.
Mewn rhai achosion fe all rhai ffyrdd fod ar gau oherwydd y glaw.
Hefyd mae perygl o lifogydd mewn tai a busnesau mewn mannau.
Dyma restr o'r siroedd all gael eu heffeithio:
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Sir Gaerfyrddin
- Wrecsam
- Ynys Môn