Cyhoeddi carfan rygbi Cymru i herio Canada

Gyda llygaid Cymru wedi eu hoelio ar bêl-droed dros yr wythnosau diwethaf, bydd sylw byd y campau yn troi tuag at y bêl hirgron y penwythnos hwn.
Bydd tîm rygbi Cymru yn wynebu Canada ddydd Sadwrn yn y gêm gyntaf o dair gêm prawf rhyngwladol dros yr haf.
Bydd y gic gyntaf am 15.00 yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Mae pum enw sydd heb ennill gap dros Gymru wedi eu dewis yng ngharfan Wayne Pivac, gyda disgwyl i Leigh Halfpenny ennill ei 100fed cap dros ei wlad yn ystod y gêm, meddai WalesOnline.
Carfan Cymru: Leigh Halfpenny; Jonah Holmes, Willis Halaholo, Jonathan Davies, Tom Rogers, Callum Sheedy, Tomos Williams; Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright.
Ar y fainc: Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Kieran Hardy, Ben Thomas, Nick Tompkins.
Bydd Pivac yn cynnal cynhadledd i'r wasg am 12.30 i drafod ei ddewisiadau.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans