'Dim bwriad' i ddileu cytundeb Carchar y Parc wedi naw marwolaeth yno
Does dim bwriad gan Lywodraeth y DU i ddileu'r cytundeb ar gyfer rheoli Carchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr, er gwaetha’r pryderon am gamddefnyddio cyffuriau a marwolaethau carcharorion, yn ôl y gweinidog cyfrifol.
Mae naw o bobl wedi marw yn y carchar preifat ers diwedd mis Chwefror. Roedd pedwar o'r marwolaethau'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau.
Yn sgíl pryderon am y Parc, mae aelodau'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi bod yn holi Gweinidog Carchardai Llywodraeth y DU, Edward Argar.
Fe wnaeth Beth Winter AS ofyn iddo a oedd gweinidogion yn ystyried cymryd y cytundeb ar gyfer rheoli’r Parc oddi wrth y cwmni diogelwch G4S.
Dywedodd: “Na, nid oes gennym unrhyw fwriad na chynllun i gymryd y cytundeb yn ôl. Rydym yn ystyried bod y Parc, gan gydnabod yr heriau sydd yma, yn garchar sy’n cael ei redeg yn dda ac yn garchar effeithiol."
Dywedodd Mr Argar hefyd mewn ymateb i Beth Winter: “Fe wnaeth hi gyfeirio’n gwbl briodol at y naw marwolaeth, ond roedd dwy o’r rheini’n farwolaethau o achosion naturiol, ry’n ni’n credu, felly mae hynny’n bwysig … ac nid yw hynny’n eu diystyru mewn unrhyw ffordd, ond dwi’n meddwl ei bod yn bwysig deall y cyd-destun.
“Yr ail bwynt yw tynnu sylw at y ffaith ein bod ni’n gweld nifer debyg o farwolaethau yn y gymuned hefyd o ran marwolaethau, lle ry’n ni’n credu bod cyffuriau dan sylw.”
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Stephen Crabb, fod carcharor sydd dan glo yn y Parc wedi ysgrifennu at y pwyllgor yn dweud bod “cyffuriau ym mhob man” a bod “y mwyafrif helaeth yn dod mewn trwy staff.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Carchardai Cymru, Ian Barrow, mewn ymateb: “Dydw i ddim yn meddwl bod gennym ni bryder bod y mwyafrif helaeth wedi dod mewn gan staff.
“Gall pawb sy’n mynd mewn i garchar, gan gynnwys staff, fod yn destun archwiliad. Mewn tri o'r carchardai yng Nghymru, yn y Berwyn, yng Nghaerdydd ac Abertawe, mae gennym ni fwy o ddiogelwch wrth y giât eisoes. Felly, bydd timau archwilio penodedig ac aelodau o staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn archwilio naill ai ymwelwyr neu staff pan fyddan nhw’n mynd mewn i'r carchardai.”