Barnwr: Cyngor Gwynedd wedi ymddwyn yn 'anghredadwy' yn achos Neil Foden
Bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o'r modd y deliodd Cyngor Gwynedd ag achos Neil Foden, wedi i farnwr ddisgrifio ymddygiad yr awdurdod fel "anghredadwy."
Wedi i'r llys gael y cyn-bennaeth yn euog o 19 trosedd yn erbyn plant yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands ei bod yn "anhygoel fod Foden wedi gallu parhau i droseddu" wedi i gŵyn gael ei gwneud amdano yn 2019.
Roedd athro wedi mynegi pryder wrth bennaeth addysg y sir ar y pryd, Garem Jackson, am "agosatrwydd" Neil Foden at rhai plant.
Ond dywedodd Mr Jackson mai'r cwbl roedd o wedi ei wneud mewn ymateb oedd cael "gair anffurfiol" gyda Mr Foden a'i "gynghori".
Ni chafodd cofnod o'r sgwrs ei chadw. Dywedodd Mr Jackson wrth y llys wrth gael ei holi fel tyst at 30 Ebrill ei fod wedi cael cyngor gan swyddog arall "nad oedd angen ymchwiliad ffurfiol" i ymddygiad Mr Foden.
Dywedodd y barnwr: "Pan gafodd pryderon gwirioneddol eu codi ynglŷn â'r diffynydd gyda'r cyngor sir, fe gafon nhw eu gwrthod i bob pwrpas.
"Rydym bellach yn gwybod ei fod wedi parhau i droseddu. Mae hynny'n achos pryder gwirioneddol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd ddydd Mercher eu bod yn croesawu dyfarniad y llys.
"Rydym wedi ein brawychu gan natur y troseddau a gyflawnwyd ac yn gwerthfawrogi ac yn edmygu’r dewrder a’r gwydnwch rhyfeddol mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd wedi arddangos drwy gydol y broses. Rydym yn ddiolchgar iddynt ac mae ein meddyliau gyda hwy ar yr amser anodd hwn."
Dywedodd y cyngor eu bod eisiau diolch i ddisgyblion, teuluoedd a staff am eu cydweithrediad wrth i’r Heddlu gynnal eu hymchwiliadau.
"Rydym yn ymwybodol iawn y gallai canlyniadau’r achos difrifol hwn achosi straen a gofid pellach i ddisgyblion. Oherwydd hyn, bydd y trefniadau bugeiliol a roddwyd mewn lle ar ddechrau’r achos troseddol yn parhau.
“Ers dechrau’r achos, mae Cyngor Gwynedd wedi cydweithio’n agos â Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau fod Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cael eu dilyn yn llawn.
“Nawr fod y broses droseddol wedi dod i ben, bydd y gwaith o adolygu a sefydlu pa wersi sydd i’w dysgu o’r achos yn dechrau. Oherwydd natur ddifrifol yr achos, mae penderfyniad wedi ei wneud i gynnal adolygiad annibynnol yn unol â chanllawiau Adolygu Ymarfer Plant cenedlaethol. Mae union ffurf yr adolygiad hwnnw yn derbyn sylw ar hyn o bryd."
'Argymhellion'
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ymchwiliad annibynnol yn dilyn troseddau rhyw Neil Foden.
“Bydd Adroddiad Ymarfer Plant yn cael ei gomisiynu gan y Bwrdd Rhanbarthol Diogel Plant pan fydd yr achos llys yn dod i ben," meddai llefarydd.
“Bydd yr adroddiad hwn, fydd wedi’i arwain gan ymchwilwyr annibynnol, yn ystyried cysylltiad asiantaethau priodol, yn adnabod dysg, ac yn gwneud argymhellion i wella dyfodol ymarfer diogelu plant.”
Mae Adroddiad Ymarfer Plant yn cael ei gynnal mewn achosion lle mae’n hysbys, neu fod yna amheuaeth bod plentyn wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso.
Mae adroddiadau o’r fath wedi cael eu cynnal yn y gorffennol ar gyfer straeon mawr, er enghraifft yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi.
Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Arfon, Siân Gwenllian bod "pawb wedi dychryn" o glywed natur y troseddau a gyflawnwyd "ac yn teimlo dros y plant oedd wedi eu gorfodi i ail-fyw’r profiadau hunllefus".
"Rwy’n falch y bydd y Cyngor yn cynnal adolygiad annibynnol," meddai.
"Byddaf yn cyfarfod efo swyddogion i ddeall union natur yr adolygiad hwnnw ac yn chwilio am sicrwydd y cynhelir ymchwiliad trwyadl yn cael ei arwain gan rai fydd yn gwbl annibynnol o’r Cyngor.
"Gyda’r broses droseddol wedi dod i ben, mae’n bryd i’r gwaith o sefydlu pa newidiadau sydd eu hangen ddechrau ar unwaith."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon mae cymorth ar gael yma.