Carthion heb eu trin wedi eu gollwng i Windermere
Mae miliynau o litrau o garthion heb eu trin wedi eu pwmpio i un o lynnoedd mwyaf enwog Lloegr.
Wnaeth United Utilities ddim llwyddo i atal y carthion rhag mynd mewn i lyn yn ardal y Llynnoedd am ddeg awr ym mis Chwefror eleni.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod wedi cymryd camau brys i ddatrys y sefyllfa.
Fel arfer mae gorsaf bwmpio yn Cumbria yn anfon carthion i orsaf trin carthion.
Ond mae dogfennau mae’r BBC wedi gweld yn dangos bod nam technegol wedi bod ar 28 Chwefror a wnaeth olygu bod y prif bympiau wedi stopio gweithio.
Fe olygodd hynny bod pympiau argyfwng eraill wedi gollwng carthion i ganol llyn Windermere.
Mae’r llyn yn rhan o safle treftadaeth Unesco a dyma'r llyn mwyaf yn Lloegr.
Llun: Mkonikkara/Wikipedia