'Pryder gwirioneddol' am bobl ifanc yn prynu cyllyll ar-lein
Mae yna "bryder gwirioneddol" am bobl ifanc yn prynu cyllyll ar-lein yn anghyfreithlon yn ôl yr heddlu.
Yn ôl yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Plismona Troseddau Cyllyll, y Comander Stephen Clayman, mae lluoedd yng Nghymru a Lloegr yn awyddus i atal y cyflenwad fel bod dim marwolaethau ac anafiadau.
Ychwanegodd fod cyllyll yn cael eu gwerthu yn anghyfreithlon i bobl sy'n iau na 18 oed ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.
Yn eu plith mae TikTok, Snapchat a'r rhai sy'n cael eu rhedeg gan Meta.
"Mae'n ddarlun pryderus iawn o ran cael mynediad at gyllyll ar-lein," meddai.
Mae ffigyrau swyddogol yn dangos fod troseddau cyllyll wedi cynyddu o 7% yn y flwyddyn i fis Rhagfyr y llynedd.
Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, cafodd 82% o'r bobl ifanc a gafodd eu llofruddio eu lladd â chyllell.
Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ddydd Mawrth y byddai'n rhoi cyllid ychwanegol o £3.5 miliwn ar gyfer ymchwil newydd.
Fe fydd y gyfraith ar gyfer cyllyll a chleddyfau yn llymach o fis Medi ymlaen.
Bydd y gyfraith yn galluogi'r heddlu i gael mwy o bwerau i gymryd arfau sy'n cael eu darganfod mewn eiddo preifat oddi wrth bobl.