Aelodau'r rheithgor yn achos Neil Foden yn ystyried eu dyfarniad
Mae aelodau'r rheithgor yn achos y prifathro Neil Foden wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Mae Mr Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn wynebu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 a Medi 2023.
Mae'n gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Ar ôl gwrando ar y dystiolaeth am 16 o ddyddiau, fe ddechreuodd y rheithgor ystyried eu dyfarniad am 14:40 ddydd Mawrth.
Wedi iddo grynhoi'r hyn oedd wedi ei gyflwyno gan yr erlyniad a'r amddiffyniad yn yr achos, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth aelodau'r rheithgor bod angen iddynt ddod i ddyfarniad unfrydol i'r 20 o gyhuddiadau dan sylw.
Os na fyddai hynny'n digwydd fe fyddai angen trafod dyfarniadau mwyafrifol petae'r sefyllfa'n codi.
Cafodd y rheithgor ei anfon adref cyn 16.00 ddydd Mawrth a bydd yn ailddechrau trafodaethau am 10.00 ddydd Mercher.