Newyddion S4C

Michael Sheen 'Cywilyddus pe na bai'r celfyddydau yn cael y gefnogaeth mae'n ei haeddu'

ITV Cymru 13/05/2024
Michael Sheen

Mae’r actor Michael Sheen wedi dweud y byddai’n "gywilyddus" pe na bai sector y celfyddydau yng Nghymru yn derbyn y “datblygiad a chefnogaeth mae’n ei haeddu.”

Mae’r actor ar hyn o bryd yn serennu yn Nye, drama newydd am fywyd sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd, Aneurin Bevan.

Weth drafod sefylfa ariannol y celfyddydau, dywedodd yr actor o Bort Talbot nad oedd yn synnu fod cyllid National Theatre Wales wedi ei dorri:

 “Ar un llaw, mae’n dipyn o sioc pan wnewch chi glywed fod National Theatre Wales yn y sefyllfa mae ynddi a bod ei chyllid wedi’i dorri fel yna. Ond ar yr un pryd mae’n gyfle iddi ail-ddychmygu ei hun ac ailddyfeisio ei hun – efallai mewn ffordd lle byddai’n cael ei chroesawu’n fwy gan y Cymry eu hunain.”

Fis Medi diwethaf, daeth cyhoeddiad bod National Theatre Wales ymhlith y rhai na chafodd eu cynnwys yn rownd grantiau diweddaraf Cyngor Celfyddydau Cymru. Daeth eu cyllid i ben ym mis Ebrill eleni.

Dywedodd y cwmni theatr: "Rydym yn ymwybodol nad ydym ar ein pennau ein hunain; mae llawer o elusennau sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus fel ni, a chyrff y sector cyhoeddus yn wynebu toriadau ariannol, yng Nghymru ac ar draws y DU."

Derbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru 139 o geisiadau - 81 oedd yn llwyddiannus. 

'Argyfwng'

Cafodd National Theatre Wales ei sefydlu gyda chymorth cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2007.

Mae Cyngor y Celfyddydau, sy’n elusen annibynnol wedi’i sefydlu i gefnogi’r diwydiant creadigol, wedi dyfarnu bron i £30 miliwn i sefydliadau ledled Cymru ar gyfery flwyddyn ariannol bresennol.

Mae dramodydd y ddrama Nye, Tim Price, yn rhannu pryderon tebyg â’i brif actor, Michael Sheen.

Dywedodd: "Mae theatr Gymreig mewn argyfwng gyda'r toriadau, yn dal i aros am strategaeth theatr gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Dydw i ddim yn meddwl ei bod mewn lle da."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym yn cytuno'n llwyr â'ch cyfranwyr am bwysigrwydd y celfyddydau i bob agwedd o fywyd Cymru.

"Rydym wedi ymrwymo i weithredu adolygiad trylwyr o'r iaith Saesneg. Bydd yr adolygiad hwn yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar gyflwr y theatr yng Nghymru a bydd yn rhoi gwybod i ni am anghenion a blaenoriaethau'r dyfodol. Rydym yn obeithiol y byddwn yn dechrau y darn pwysig hwn o waith yn y dyfodol agos.”

Ychwanegodd y dramodydd Tim Price: “Dwi’n meddwl dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gwerthfawrogi’r celfyddydau yn yr un ffordd â’r gwledydd a’r rhanbarthau eraill a dwi’n meddwl y bydd hynny’n cael effaith enfawr ar les ac ar yr economi.

'Penderfyniadau anodd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y celfyddydau a diwylliant yn "rhan annatod o'n cymdeithas" ond eu bod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau hynod anodd i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y GIG."

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu i’r wasgfa hon ar wariant cyhoeddus barhau dros y blynyddoedd nesaf, ac yn seiliedig ar eu cynlluniau bydd ein cyllideb yn is fesul person mewn termau real yn 2028/29 nag yr oedd yn 2022/23.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae cyllid ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru wedi’i ddatganoli ac mae Llywodraeth Lafur Cymru ar hyn o bryd yn cael y setliad cyllid mwyaf gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn hanes datganoli – £18 biliwn y flwyddyn, sef y swm uchaf erioed, sy’n dal i gynyddu mewn gwirionedd.

“Mae’n golygu bod Llywodraeth y DU yn rhoi dros 20% yn fwy o gyllid y pen i Lywodraeth Cymru na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU yn Lloegr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.