Côr Ifor Bach yn ennill Côr Cymru 2024
Côr Ifor Bach o Goleg y Drindod Dewi Sant, yw enillwyr cystadleuaeth Côr Cymru 2024.
Daeth y côr o fyfyrwyr i'r brig yn y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth nos Sul.
Roedd y pump côr wnaeth ennill eu categorïau yn y rownd gyntaf yn cystadlu am dlws Côr Cymru a gwobr o £4000.
Y pump oedd:
- Ysgol Gerdd Ceredigion (enillwyr categori y Côr Plant),
- Bechgyn Bro Taf (enillwyr Côr Lleisiau Unfath),
- Côr Glanaethwy (enillwyr Corau Cymysg),
- Côr Ieuenctid Môn (enillwyr y Corau Sioe),
- Chôr Ifor Bach (enillwyr y Corau Ieuenctid).
Fe gyflwynodd pob côr raglen amrywiol o ganeuon, gan greu cryn argraff ar y beirniaid rhyngwladol.
Ar y panel beirniadu eleni roedd yr arweinydd o Gymru Grant Llewellyn, y cawr corawl o Swydd Efrog Greg Beardsell, a’r arweinydd byd enwog o Singapore Dr Darius Lim.
Wrth ymateb i'r canlyniad, dywedodd Eilir Owen Griffiths arweinydd Côr Ifor Bach:"Mae gwneud y gystadleuaeth yma wedi bod yn un o'r pethau yna sy'n gwthio'r côr.
"Mae'r côr yma dim ond gyda fi ers mis Hydref, a megis dechrau gobeithio ydi hwn i ni, oherwydd maen nhw wedi gweithio mor mor galed."ychwanegodd.