Dyn wedi marw ar daith feics elusennol
Mae dyn 51 oed wedi marw yn ystod taith feics elusennol yn Sir Benfro.
Dywedodd trefnwyr y Carten 100 o Gaerdydd i Ddinbych-y-pysgod fod amheuaeth fod y dyn, Michael Gronow, wedi marw o ataliad ar y galon yn ystod y digwyddiad ddydd Sadwrn.
Roedd tua 2,100 o seiclwyr yn cymryd rhan yn y daith oedd yn dathlu 20 mlynedd.
Mewn datganiad dywedodd y trefnwyr: “Gyda thristwch mawr gallwn gadarnhau fod reidiwr wedi marw yn ystod 2024 Carten 100.
Dywedodd y trefnwyr fod y gwasanaethau brys wedi ymateb “bron ar unwaith” yn Nhre Ioan ger Caerfyrddin mewn modd “cyflym a phroffesiynol iawn”.
“Mae pawb sy’n gysylltiedig â threfnu’r Carten 100 yn dymuno eu cydymdeimladau dwys," medden nhw.
“Mae hyn yn drasiedi i wraig y dyn, teulu a ffrindiau.”
Llun: Carten 100