Caerdydd yw prifddinas orau'r DU am fargen wyliau medd ymchwil
Caerdydd yw’r brifddinas orau yn y DU am fargen wyliau yn ôl ymchwil gan y Swyddfa Bost.
Mae’r ymchwil wedi cymharu 37 o brifddinasoedd ar draws Ewrop a Chaerdydd sydd ar frig y rhestr am y DU.
Roedd yr ymchwil yn seiliedig ar gyfraddau ym mis Ebrill am gost dwy noson o lety tair seren dros benwythnos, pryd nos i ddau, diod, costau atynfeydd a thrafnidiaeth yn y ddinas.
Fe ddaeth Caerdydd ar ben y rhestr yn y DU gyda chost o £409 gyda Belfast yn £629 a phrif ddinas Iwerddon, Dulyn yn £579.
Roedd y gost o ymweld â Chaeredin yn £602 a Llundain yn £524 oherwydd bod prisiau cystadleuol yn cadw costau yn is.
Prifddinas Lithwania Vilnius (£237) oedd y rhataf ar draws Ewrop gydag Amsterdam y drutaf yn £669.
Dywedodd pennaeth arian teithio’r Swyddfa Bost Laura Plunkett: “Mae’n bwysig i gofio fod angen ychwanegu cost prydiau bwyd a diodydd i’r gyllideb wario oherwydd bod costau gwyliau byr braidd byth yn cynnwys y rhain.
"Dros gyfnod o ddeuddydd neu dridiau, mae’r rhain yn gallu gwneud gwahaniaeth i gostau gwyliau."