Menyw o Abertawe wedi ei chyhuddo yn dilyn ymosodiad ar y Magna Carta
11/05/2024
Ymosodiad Magna Carta
Mae menyw o Abertawe wedi ei chyhuddo o ddifrod troseddol yn dilyn ymosodiad ar arddangosfa’r Magna Carta yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain ddydd Gwener.
Cafodd Judith Bruce, 85 oed, o Abertawe a’r Parchedig Sue Parfitt, 82 oed, o Fryste eu harestio yn dilyn yr ymosodiad gan fwrthwl ar y gwydr o amgylch y Magna Carta.
Mae’r galeri sy’n cynnwys yr arddangosfa wedi ei chau am y tro.
Cafodd y ddwy fenyw eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar 20 Mehefin.
Llun: Just Stop Oil