Newyddion S4C

'Mae’n freuddwyd i mi sydd wedi dod yn realiti': Ymateb Osian Roberts o gyrraedd Serie A

'Mae’n freuddwyd i mi sydd wedi dod yn realiti': Ymateb Osian Roberts o gyrraedd Serie A

Mae Osian Roberts yn dweud fod cyrraedd Serie A gyda thîm pêl-droed Como 1907  yn "freuddwyd sydd wedi dod yn realiti" iddo.

Roedd Como 1907 wedi sicrhau dyrchafiad yn dilyn gêm gyfartal gyda Cosenza nos Wener.

Roedd pwynt yn ddigon i sicrhau dyrchafiad pe bai Venezia, oedd yn safle trydydd ddim yn ennill

Collodd Venezia 2-1 yn erbyn Spezia a oedd yn golygu felly bod Como 1907 yn ennill dyrchafiad.

Dywedodd y Cymro: "“Rwy’n eithriadol o falch, pan ddes i yma roedd gynnon ni lot o waith i neud i gyrraedd y nod. Chwarae teg i’r chwaraewyr, y ffordd maen nhw wedi mynd o’i chwmpas hi a fedrai ddim eu canmol gormod.

"Mae’r staff ‘di dod at ei gilydd yn sydyn iawn wedi cydweithio’n gyflym a llwyddo i neud beth oedd y targed sef cyrraedd Serie A.

"Mae’n freuddwyd i mi sydd wedi dod yn realiti. Felly rwy’n falch iawn.

"Diwrnod hanesyddol i’r clwb i fynd yn ôl i Serie A wedi 20 mlynedd.

"Mae’r clwb ‘ di cael amser called ac mae perchnogion y clwb wedi dod i mewn rhyw bedair blynedd yn ôl. Mae Cesc (Fàbregas) gyda mi yn ddyddiol ac rwy’n siarad efo Thierry Henry yn wythnosol ac mae pobl dda gyda ni yn y clwb."

Fe gafodd cyn-hyfforddwr Cymru ei benodi yn rheolwr dros dro clwb pêl-droed Como 1907 ym mis Rhagfyr y llynedd. 

Ymunodd â chyn chwaraewr Arsenal, Barcelona, Chelsea a Sbaen, Cesc Fàbregas, sydd hefyd yn rhan o'r tîm hyfforddi.

Mae Osian Roberts hefyd yn gyn Cyfarwyddwr Technegol Cymdeithas Bêl-droed Moroco yn ogystal â chael rôl fel rheolwr cynorthwyol gyda chlwb pêl-droed Crystal Palace.

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.