Pontycymer: Gyrrwr beic modur wedi marw wedi gwrthdrawiad
10/05/2024
Mae gyrrwr beic modur wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr A4064 ym Mhontycymer.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad oedd yn ymwneud â beic modur KTM 125cc oren.
“Er gwaethaf ymdrechion y tîm meddygol yn y fan a'r lle, cyhoeddwyd bod gyrrwr y beic modur wedi marw ychydig yn ddiweddarach,” medden nhw.
“Mae teulu’r gyrrwr yn cael cymorth gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.”
Roedd y ffordd ar gau am rai oriau.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw am gael gwybod gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau camera cerbyd.