Dod o hyd i gorff dyn ar safle diwydiannol yn y gogledd
10/05/2024
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn ar safle diwydiannol yn y gogledd.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cael gwybod am y corff yn Ewlo, Sir y Fflint toc wedi 11.30 bore Gwener.
“Mae amgylchiadau’r farwolaeth yn cael eu hymchwilio ar hyn o bryd,” medden nhw.
“Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law.”