Newyddion S4C

'Llwyddiant arurthrol' wrth i walch ymweld â nyth yn Sir Benfro yn dilyn ymdrechion i ddenu'r adar yno

12/05/2024
Gweilch Sir Benfro

Mae grŵp o ffrindiau sydd wedi dod at ei gilydd i geisio denu gweilch i Sir Benfro am y tro cyntaf ers bron i 200 mlynedd wedi eu "cyffroi'n fawr" wedi i walch cael ei weld yn yr ardal.

Ym mis Mawrth, roedd Kevin Phelps, Dave Welton a'u ffrindiau wedi adeiladu nythod a'u gosod ar bolion telegraff 10 metr o uchder a boncyffion 15 metr o uchder ger yr Afon Cleddau.

Dywedodd Mr Phelps, Cadeirydd Prosiect Gweilch Sir Benfro ym mis Ebrill ei fod yn "meddwl bydd gweilch yn dechrau bridio yma yn y dyfodol agos."

Bellach, mae'r gwalch, a'i henwir yn KC1, wedi ymweld ag un o'r nythod ar 3 Mai.

Yn dilyn ymweliad yr aderyn, a gafodd ei eni yn Eryri yn 2019, dywedodd Mr Phelps wrth Newyddion S4C ei fod yn "hynod o gyffrous" bod gweilch yn yr ardal yn barod.

"Mae hwn yn dod a ni cam yn agosach i weld gweilch yn bridio yn Sir Benfro am y tro cyntaf ers 200 mlynedd.

"I feddwl bod y nythod ond wedi cael eu cwblhau ym mis Mawrth, nid oeddem yn disgwyl gweld gwalch mor fuan."

'Llwyddiant aruthrol'
 

Ym misoedd y gaeaf mae gweilch ym mudo i orllewin Affrica, yn bennaf i Gambia a Senegal.

Yn ôl Prosiect Gweilch Sir Benfro mae'r gweilch yn teithio heibio Sir Benfro yn y gwanwyn wrth iddynt ddychwelyd i'r Alban neu wledydd Llychlyn i fridio.

Gobaith Mr Phelps yw bydd KC1 yn darganfod gwalch benywaidd i fridio gyda a gweld mwy o weilch yn nythu yn Sir Benfro.

Image
Adeiladu nythod yn Sir Benfro
Adeiladu nythod ar gyfer y gweilch. (Llun: Prosiect Gweilch Sir Benfro)

"Rydym yn obeithiol y byddai KC1 yn darganfod gwalch i fridio gydag yn Sir Benfro eleni.

"Mae gennym gamerâu ar y nyth felly mae'n cael ei fonitro'n agos.

"Pe byddai yn bridio, fe fyddai'n newyddion gwych, fodd bynnag, hyd yn oed os nad oedd hynny am ddigwydd eleni, mae hyn dal yn llwyddiant aruthrol i'r prosiect yn ei flwyddyn gyntaf.

"Mae'n dangos yn glir bod Afon Cleddau yn Sir Benfro yn gynefin delfrydol i boblogaeth gweilch.

Llun: Prosiect Gweilch Sir Benfro

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.