Newyddion S4C

Israel yn cyrraedd rownd derfynol Eurovision yn Sweden

10/05/2024
Eden Golan

Mae Israel wedi cyrraedd rownd derfynol Eurovision yn Sweden, ar ôl pleidlais y cyhoedd yn y rownd gyn-derfynol nos Iau.

Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn nhrydedd ddinas fwyaf y wlad, Malmo, nos Sadwrn.

Mae'r gân Hurricane, sy'n cael ei pherfformio gan Eden Golan ar ran Israel, wedi ei addasu o gân flaenorol o’r enw October Rain a’r gred oedd bod y teitl hwnnw yn cyfeirio at ymosodiad Hamas ar Israel ym mis Hydref y llynedd.

Yn gynharach ddydd Iau, fe wnaeth miloedd o brotestwyr o blaid Palesteina gerdded strydoedd Malmo i ddangos eu cefnogaeth i bobl Gaza a'u gwrthwynebiad fod Israel yn cael cystadlu. 

Mae Israel wedi wynebu galwadau i gael ei diarddel o’r gystadleuaeth yn dilyn y rhyfel yn Gaza.

Yn ôl gweinyddiaeth iechyd y diriogaeth sy’n cael ei redeg gan Hamas, mae Israel wedi lladd 34,000 o bobl yno ers yr hydref y llynedd.

Fe ofynnodd newyddiadurwr i Ms Golan nos Iau: "Ydych chi erioed wedi meddwl o fod yma eich bod chi'n peryglu cystadleuwyr eraill a'r cyhoedd?"

Atebodd Ms Golan drwy ddweud: "Dwi'n meddwl ein bod ni gyd yma am un rheswm ac un rheswm yn unig, ac mae Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) yn cymryd y camau diogelwch priodol er mwyn gwneud hwn yn lle diogel ac unedig i bawb.

"Felly dwi'n meddwl ei fod yn ddiogel i bawb ac ni fyddwn i yma os ddim."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.