Bachgen wedi anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Mae bachgen 10 oed wedi cael ei anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei fwrw gan gar ym Mlaenau Gwent.
Cafodd y bachgen ei daro gan y cerbyd am 21:10 nos Sul ar Heol Beaufort yn Nhredegar.
Yn dilyn y digwyddiad fe yrrodd y cerbyd i ffwrdd medd Heddlu Gwent.
Mae swyddogion wedi arestio dyn 23 oed o Gaerffili ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus, gyrru cerbyd a fethodd a dod i stop yn dilyn gwrthdrawiad, a gyrru cerbyd dan ddylanwad cyffur cyfreithlon oedd uwchlaw’r terfyn penodedig.
Yn ôl Heddlu Gwent digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y bachgen a BMW lliw tywyll, ac mae’r dyn gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion yr heddlu yn apelio am lygaid-dystion oedd wedi gweld y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.