Newyddion S4C

Trafferthion technegol mewn meysydd awyr ar draws y DU 'wedi eu datrys'

08/05/2024

Trafferthion technegol mewn meysydd awyr ar draws y DU 'wedi eu datrys'

Mae trafferthion technegol achosodd oedi sylweddol mewn meysydd awyr ledled y DU wedi eu datrys, meddai'r Swyddfa Gartref.

Cafodd meysydd awyr gan gynnwys Heathrow, Gatwick, Caeredin, Birmingham, Bryste, Newcastle a Manceinion eu heffeithio gan broblemau nos Fawrth.

Bu'n rhaid i swyddogion Llu'r Ffiniau brosesu teithwyr eu hunain, gan nad oedd modd defnyddio e-gatiau'r meysydd awyr.

Roedd delweddau a lluniau wedi'u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos ciwiau hir mewn sawl maes awyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref mewn datganiad fore Mercher: “Daeth e-gatiau ym meysydd awyr y DU yn ôl ar-lein toc wedi hanner nos.

“Cyn gynted ag y cafodd y nam ar y system ei ddarganfod gan beirianwyr am 19:44 nos Fawrth, bu ymateb ar raddfa fawr a gafodd ei gweithredu o fewn chwe munud.

“Ni chafodd diogelwch ffiniau ei beryglu ar unrhyw adeg, a does dim arwydd o weithgarwch seibr maleisus.”

Ymddiheurodd y llefarydd i deithwyr oedd yn wedi eu dal gan yr aflonyddwch.

'Anrhefnus'

Dywedodd Sam Morter, 32, a gyrhaeddodd Heathrow o Sri Lanka wrth asiantaeth PA, fod y sefyllfa yn “bandemoniwm” pan gyrhaeddodd a bod sgriniau gwag ar bob un o’r e-gatiau.

Dywedodd wrth PA: “Roedd yna lawer o swyddogion Llu’r Ffiniau yn rhedeg o gwmpas.

“Fe ddechreuodd cannoedd o deithwyr ruthro i'r giatiau, felly roedd y cyfan yn anhrefnus yn sydyn ac ni allent ymdopi â nifer y bobl a ddaeth i mewn.

“Ni chawsom unrhyw wybodaeth. Nid oedd unrhyw wybodaeth ar y tannoys na gan staff.”

Giatiau ffin awtomatig yw e-gatiau sy’n defnyddio technoleg adnabod wynebau i wirio hunaniaeth person er mwyn gadael iddynt ddod i mewn i’r DU heb siarad â swyddog Llu’r Ffiniau.

Fe gawsant eu creu er mwyn "galluogi teithio cyflymach i'r DU”.

Llun: Sam Morter / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.