Newyddion S4C

Chwilio am ddau 'ymosododd ar ddyn 70 oed' wrth iddo dynnu arian o beiriant ATM

04/05/2024
Camera cylch cyfyng o'r ymosodiad honedig

Mae dyn 70 oed wedi colli clyw mewn un glust ar ôl iddo ddioddef ymosodiad “treisgar” honedig wrth dynnu arian parod o beiriant ATM.

Dywedodd Heddlu’r Met eu bod nhw'n credu bod dau leidr wedi ymosod arno a’i daro i’r llawr yng ngogledd-orllewin Llundain.

Tra bod y dyn yn gorwedd yn anymwybodol fe wnaeth dynes ddwyn ei arian yn yr “ymosodiad oedd wedi ei gynllunio o flaen llaw”, ychwanegodd y llu.

Roedd penglog y dioddefwr wedi torri, collodd ei glyw mewn un glust, ac mae ganddo bellach broblemau symud sy'n golygu ei fod wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio, meddai'r heddlu.

Cafodd swyddogion eu galw i Ealing Road, Wembley, ddydd Sul 31 Mawrth.

Fe wnaeth y ddau o dan amheuaeth ffoi o'r lleoliad a dydd Sadwrn rhyddhaodd y Met luniau teledu cylch cyfyng y maen nhw'n dweud sy'n dangos y pâr yn cael trafodaeth ar y stryd.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Muhamed Ahmed, o’r Uned Troseddau â Blaenoriaeth sy’n gwasanaethu Wembley: “Rydym wedi chwilio drwy oriau lawer o deledu cylch cyfyng ac rydym yn credu ein bod yn gwybod am bwy rydym yn chwilio.

“Mae’n bosib gweld menyw mewn hwdi ffwr gyda throwsus cuddliw yn yr ardal lle mae'r peiriant ATM.

“Yna gellir gweld yr un ddynes yn siarad ag un arall o dan amheuaeth, dyn â barf tywyll yn gwisgo siaced gyda’r hwdi i fyny.

“Yn ddiweddarach mae’r teledu cylch cyfyng yn dangos y ddau yn rhedeg i ffwrdd ar ôl y lladrad.

“Rwy’n apelio ar y cyhoedd am gymorth – os ydych chi’n adnabod y naill neu’r llall, cysylltwch â'r heddlu.

“Roedd hwn yn ymosodiad rhagfwriadol a adawodd ddyn oedrannus wedi’i anafu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.