Rhybudd melyn am law i rannau o Gymru fore Llun
28/06/2021
Glaw
Mae pobl wedi eu cynghori i gymryd gofal wrth i rybuddion am law i rannau o Gymru barhau i fod mewn grym fore Llun.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn rhybudd melyn am law i rannau o'r de tan 10 o'r gloch y bore.
Mae'n bosib i rhwng 15 a 25 mm o law syrthio yn ychwanegol i'r dwr sydd eisoes ar lawr.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyn arwain at amodau gyrru anodd ac oedi posib i drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe,
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Fynwy
- Torfaen