Caerdydd: Carcharu athro a gafodd ryw yn gyson gyda disgybl 16 oed
Caerdydd: Carcharu athro a gafodd ryw yn gyson gyda disgybl 16 oed
Mae athro 29 oed o Gaerdydd a gafodd ryw yn gyson gyda disgybl 16 oed wedi cael dedfryd o dair blynedd a phedwar mis o garchar.
Cyfaddefodd Ieuan Bartlett o'r Eglwys Newydd i 12 achos o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn gan berson mewn safle o ymddiriedaeth.
Fydd ganddo ddim hawl i gysylltu a'r ferch, ac mi fydd o ar y gofrestr troseddwyr rhyw weddill ei oes.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Ieuan Bartlett wedi mynd i dŷ'r ferch drwy'r drws ochor er mwyn osgoi camera ar y drws blaen.
Roedd hefyd wedi pwyso ar y ferch i anfon lluniau anweddus ohoni'i hun ato, yn groes i'w dymuniad.
Roedd y ferch wedi dweud wrth y llys ei bod hi'n meddwl y bydden nhw mewn cariad, a gyda'i gilydd.
Ond erbyn hyn, roedd hi'n deall gymaint yr oedd Bartlett wedi ei rheoli, a'i bychanu, meddai.
Clywodd y llys ei bod hi hefyd wedi troi ato am gefnogaeth ar y dechrau, ond ei fod wedi ei chymell hi dros gyfnod o rai misoedd.
Fe arweiniodd hynny at roi pwysau arni i gael rhyw, ac fe ddigwyddodd hynny nifer o weithiau, un waith yng nghartre'r ferch pan nad oedd ei rhieni yno.
Er i Bartlett ddweud wrth y ferch i beidio a dweud wrth neb - gan y gallai gael ei anfon i'r carchar - fe wnaeth un o'i ffrindiau hi sylw ar y negeseuon yr oedd o wedi'u hanfon ati ar y ffon.
Wrth son am effaith yr hyn ddigwyddodd arni, fe ddywedodd y ferch wrth y llys ei bod wedi colli hyder, ac yn "credu bod pob dyn fel Ieuan."
Roedd hi'n deall ei fod o wedi ei defnyddio, meddai.