Newyddion S4C

Oh - It's occurrin! Gavin and Stacey i ddychwelyd am un rhaglen olaf

03/05/2024
GavinStacey

Fe fydd y bennod olaf erioed o'r gyfres deledu boblogaidd Gavin and Stacey yn cael ei darlledu ar Ddydd Nadolig eleni yn ôl y BBC.

Mewn neges ar Instagram, dywedodd awdur ac un o sêr y gyfres, James Corden: "Mae'n swyddogol. Rydym ni wedi gorffen ysgrifennu'r bennod olaf erioed o Gavin and Stacey. Welwn ni chi Ddydd Nadolig, BBC. Cariad mawr, Ruth a James."

Y tro diwethaf i'r gyfres gael ei darlledu ar y sgrîn oedd ar gyfer rhaglen Nadolig arbennig yn 2019, naw mlynedd wedi i'r gyfres wreiddiol ddod i ben.

Mae rhan helaeth o'r gyfres wedi ei lleoli yn ardal Bro Morgannwg, lleoliadau ffilmio sy'n cynnwys Ynys Y Bari a Dinas Powys.

Roedd yna adroddiadau y byddai'r gyfres yn dychwelyd eleni yn gynharach yn y flwyddyn wedi adroddiadau yn y wasg yn America.

Mae'r gyfres yn cynnwys sêr eraill fel Matthew Horne, Joanna Page, Rob Brydon, Melanie Walters, Alison Steadman a Larry Lamb.

Mae cryn ddyfalu wedi bod ar ôl y bennod ddiwethaf yn 2019, a gafodd ei gwylio gan fwy na 18 miliwn o bobl, wedi i Nessa (Ruth Jones) ofyn i Smithy (James Corden) ei phriodi. 

Fe gafodd y gyfres ei darlledu am dair blynedd rhwng 2007 a 2010, ac roedd yn cynnwys 21 o benodau a dwy raglen Nadoligaidd arbennig

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.